OL TROED MARCH ENGAN.—Dangosir yr "ôl" honedig hwn i ni ar ddarn o garreg sydd yn wastad â'r ddaear ar Ialdir (common) gerllaw Castell Cilan. Dywedir fod y dwfr sydd yn yr "ôl" yn feddyginiaethol. Gall hyn fod yn wir, ond nid am ei fod mewn ôl troed ceffyl, oblegyd hyny nid yw wir.
PISTYLL.—Dywedir nad yw y tyddyn hwn yn talu degwm, ac mai yr unig rwymedigaeth sydd arno yn lle hyn yw dangos llettygarwch i ddieithriaid, yr hon sydd fraint wedi dyfod i lawr i'r oes hon o dad i fab, er pan yr oedd y saint gynt ar eu pererindod i Enlli.
"PRIORDY" NEFYN. — Sonia Eben Vardd am yr enw hwn, a dywed fod yma Lyfrgell gynt yn yr hon yr oedd adysgrif o waith Merddin Wyllt, ac enw rhyw William, Prior Nefyn yn llaw—nodi hên weithred yn y Drydedd Ganrif-ar-Ddeg. Gwêl "Golud yr Oes," Vol. II., p. 32.
MEYLLTEYRN="Byllt—heyrn," medd rhai, am fod yr Eglwys wedi cael ei chyssegru i Sanctus Petrus Ad Vincula St. Pedr Wrth Gadwyni; ond nid oes sicrwydd fod "Halsis" hualau Pedr yn "haiarn;" & chaniatâu eu bod, amhossibl eu bod yn "Byllt"= bolltau, oblegyd yr oedd yr Apostol yn rhwym rhwng dau filwr; hyny yw, yr oedd cadwyn ei law chwith yn rhwym wrth law ddê un milwr, a chadwyn ei law ddê yn rhwym wrth law chwith y milwr arall. Pa sut y gellir cyssoni pethau fel hyn? Y mae dyfais yn pallu, a rheswm yn tewi. Gan hyny, yr ydym yn barnu mai ymgais diweddar at gymhwyso yw "Ad Vincula" vincla=(vincio=I bind), ac nid yr ystyr gwreiddiol, fel y tröwyd enw yr hên Sant Cymreig "Edern" gan y Lladinwr yn "Eternus," oblegyd ni wyddom am un Cymro a fuasai yn galw "St. Pedryn—y—Carchar" yn "Meyllteyrn."