Rhaid fod yr enw yn hynach na rhaniad plwyfi yn ol y "Liber Landavensis," oblegyd nid oedd y wlad heb enwau lleol yn amser glaniad Cæsar cyn Crist, 55; ac os edrychwn yn ol i hên weithredoedd, cawn fod Meyllteyrn yn ystâd bur bwysig yn yr amser gynt, wedi dyfod i lawr i feddiant Arglwydd Penrhyn oddiwrth Syr Robert Vaughan (=Fychan), ac i Syr Robert Vaughan oddiwrth Esgob Rowlands, ac i Esgob Rowlands oddiwrth ei hynafiaid. Yma yr oedd Palas y dreftadaeth, gyda'i winllan a'i berllan, yn ogystal a'i geirw, fel y gelwir hyd heddyw hên gae yr ewigod yn "Nant Carw." I fyned ym mhellach yn ol na hyn, cyn y Goresgyniad Saxonaidd, pan yr oedd y Cymry yn byw yn ol rheolaeth rhyw fath o lywodraeth dalaethol, fel y dengys cynlluniau a threfniadau y gwahanol Amddiffynfeydd a ddesgrifiasom, nid oes amheuaeth nad oedd yr ystâd, neu y "gaertref" yma yr amser hwnw, a rhagor gyda hi, dan ryw fath o deyrn-lywiaeth, fel y dengys y gair Celtaidd "tiarna"=tiriannydd=tir—feddiannydd, neu "teyrn" yn yr hên enw Meyll—teyrn, a gall yr hên "Faelgwn" (=gwn=cèn=pen) nodedig y cyfeirir ato yma fod yn gorwedd gerllaw y Maen Hir sydd yn y Fynwent, gan y buasid weithiau yn caniatâu i deyrn gael ei gladdu yn ymyl y Deial Seryddol, yr hyn sydd efallai yn rheswm na chafodd ei dynu i lawr yn ninystr y rhelyw. Proff. Rhys a ddywed mai ystyr "Meyll—" yw "Mael," fel y gwelwn yn Maelgwn. Ond gan fod Goidel wedi trigianu yn hir yn yr oror hon, fel y profasom o'r blaen, rhaid fod yr hên enw Celtaidd hwn wedi dyfod i lawr i ni yn yr ardal hon yn ei ffurf Goidelig. Gan hyny canfyddwn fod "Meyll—" yma yn gyfystyr a "meall" yn y Wyddelaeg, hyny yw "Moel." Felly, deongliad "Meyllteyrn" ydyw "Teyrn y Foel;" ac nid oes eisiau i ni fyned ym mhell i chwilio am safon i'n gosodiad, oblegyd y mae bryn gerllaw a elwir "Y Foel," lle yr ystyriwn yr oedd "Vallum"=Amddi
Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/182
Gwedd