ap Cynfrig, disgynydd o Hywel Dda, ŵyr Rhodri Mawr, brenhin holl Gymru. Rhys ap Gruffydd a briododd Agnes, merch ac aeres Gruffydd ap Madoc Fychan, Ysw., o Nanhoron a Llwyndyrus, y pummed disgynydd o Syr Gruffydd Llwyd o Gastell Dinorwig, Swydd Gaernarfon, a Thregarnedd, Sir Fôn, gor-ŵyr Ednyfed Fychan, ap Cynfrig, o Brynffanigl, Sir Ddinbych. Ednyfed Fychan oedd Arglwydd Cruccaith, ac îs-gadfridog i Llewelyn ap Iorwerth, Tywysog Cymru, ym mrwydr Teganwy, ac wedi hyny yn brif gynghorwr iddo. Efe oedd yn disgyn o Marchudd, ap Cynan, Arglwydd Brynffanigl ac Uwch Dulas, Sir Ddinbych, trwy yr hwn y maent yn perthyn i Fostyniaid Mostyn, Williams-Bulkeley, o Baron Hill, Wynniaid o Wynnstay, Wynniaid Coed Coch, Wynniaid Peniarth, Williams Meillionydd, Fychaniaid Nannau, ac amryw eraill. Cymmaint a hynyna o ochr y Tad.
Gadawer i ni etto edrych arni o ochr y Fam, trwy Lwydiaid Llangwnadl, Hirdrefaig, a Bronheulog.
John, ap Ieuan, o Hirdrefaig, ap John, ap Meredydd, ap Hywel, Arglwydd Ffriwlyd yn Eifionydd (o deulu Gwydir) a briododd Efa, merch ac etifeddes Hywel, ap Einion, sef Hywel y Fwyell, y chweched o Collwyn, ap Tango, disgynydd o Thomas, ap Rhodri, Arglwydd Môn, mab Owain Gwynedd, gan Christiana, merch Owain, ap Edwyn, Arglwydd Tegeingl. John, ap Ieuan, oedd tad Syr Rhisiart Gwynne, marchog yr hwn a briododd Gwenhwyfar, merch John, ap Cadwaladr, Ysw., o'r Foelas; ei ferch a'i etifeddes a briododd Francis Lwyd, Ysw., o Langwnadl, a Hirdrefaig, mab Owain Lwyd, ap Dafydd Lwyd, ap Gruffydd,ap John,o Gefnammwlch (gan Katrin,merch Syr Rhisiart Bulkeley, o Baron Hill), disgynydd o Ddafydd Goch, ap Trahaiarn Goch (o Leyn), ap Madoc, ap Rhys Gloff, ac o Rhys, ap Tewdwr, trwy y rhai y maent yn perthyn i amryw deuluoedd urddasol yn Lleyn ac Eifionydd. Rhisiart Edward,