Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parch. John Morgan, Rheithor Llandudno; a'r Tra Pharchedig John Owen, Deon Llanelwy.

Un o deulu Meyllteyrn oedd Rowlands, awdwr "Mona Antiqua." O Lanengan oedd y Parch. J. V. Lloyd, awdwr Barddoniaeth Seisnig, a'r Parch. T. Jones, Canon Mygedol Eglwys Gadeiriol Bangor, ac awdwr Tônau at Wasanaeth yr Eglwys. Credem ein bod wedi gweled enw rhyw "——wyson" neu gilydd yng "Ngolud yr Oes," a thrwy gryn lawer o drafferth cawsom afael ynddo. Nid ydym yn gallu cael allan ond ei ffugenw, a hwnw yn gyflawn ydyw "Lleynwyson," o blwyf y Rhiw, er nad oeddem yn cofio ond ei derfyniad pan yn chwilio am dano. Gallwn feddwl ei fod yn llenor pur dda, ac yn amcanu bod yn Gymreigwr gwych hefyd. Ond methwn gydsynio i ddywedyd fod "taran" yn tarddu o "derw" neu "derwydd," nac ychwaith fod "tref," yn tarddu o "tyr ef." Etto, dengys ei ysgrifeniadau ymgais at fanylrwydd, meddwl ymchwilgar, a llawer o ôl llafur. Felly, y mae ganddo ei ragoriaethau, er ei fod weithiau yn wallus. Efallai nad oes yr un enw pregethwrol yng Nghymru yn enw mwy teuluaidd nag enw John Elias (o Fon). Ar un olwg, y mae "o Fon" yn ein camarwain, gan mai "o Leyn" yr oedd mewn gwirionedd. Ac nid yw "o Fon" yn ddigon i wadu mai mab ydoedd i Elias Jones, mab John Elias, clochydd hen Eglwys Abererch, "o Leyn.' Yma y cafodd yr ŵyr John Elias ei addysg boreuaf gan John Elias ei daid, ac yn yr Eglwys uchod y cafodd yr argraphiadau cyntaf. Un ydyw yntau o blant yr Eglwys, ein mam ni oll. Nid yn unig yr oedd John Elias yn bregethwr mawr, ond yn fardd mawr hefyd. Ychydig o honom efallai sydd yn gwybod mai efe a gyfansoddodd yr emyn ardderchog yma:

"Ai am fy meiau i
Dioddefodd Iesu mawr,
Pan ddaeth yng ngrym ei gariad Ef
O entrych nef i lawr?"