Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gylchiad y cyfeiria ato. Credwn mai olion athrawiaeth mynachod Enlli yw y "melldithiad," i'r bobl fod yn fwy croesawgar iddynt hwy, pan y byddent yn crwydro ar hyd y fro; ond y mae y cwbl yn cadarnhau ddarfod i'r dref fyned ar dân, a dinystrio cannoedd o'r trigolion yn y nos, yr hyn sydd drachefn yn rhoddi eglurhad ar yr hen olygiad fod y boblogaeth wedi lleihau, a'i chymmaru â rhif tybiedig yr oesoedd gynt.

Ond o bob difrod ar fywydau dynol, diamheu mai rhyfeloedd ydynt y rhai mwyaf echryslawn. Ië, yr oeddynt yn ddinystr i fesur mawr ar lafur dyn hefyd. Llosgasant Lyfrgelloedd ein gwlad fel yr ydym erbyn hyn dan ein dwylaw yng nghylch lluaws o'r manylion. Nid wyf yn meddwl fod un gymmydogaeth yng Nghymru yn dangos arwyddion mwy amlwg o ryfeloedd yn y canrifoedd a aethant heibio na Lleyn. Ysywaeth y bydd yn syndod gan ambell un yn yr oes oleu (?) hon, weled gosodiad o'r fath yna yn cael ei wneuthur am un o'r parthau mwyaf heddychlawn a thangnefeddus ym Mhrydain Fawr. Ond os cymmerwn y pleser i edrych i mewn i'r amlygiadau hyny ydynt yn tystiolaethu am a fu, cawn fod y waywffon a'r cledd wedi cynniwair yn ystorm ar ol ystorm trwy bob parth o'r gororau hyn, a phob cyfiawnder wedi ei alltudio o'r tir. Pwy all ddychymygu y cannoedd a syrthiasant yma ar faes y gwaed! Gan hyny, ein gorchwyl nesaf fydd gosod gerbron ein darllenwyr ffeithiau a phrofion o'r chwildröadau uchod.

Gwersyllfa Geltaidd.

YN myned ym mlaen i brofi y pethau rhagosodedig, dyma ni ar unwaith wedi cael ein harwain i dir tra dieithr ac ansathredig, etto, er mor ddiffaeth yr olwg arno, caiff y tir hwn fod y safon gyntaf i'n