hawdd ddilyn ac olrhain y Mur a'r Rhag-fur y dydd heddyw, a dangos y garth (court). Yr oeddym yn sicr yn ein meddwl yng nghylch y rhan fwyaf o bethau pan y gwelsom hi gyntaf; ond pan yr ymwelasom a hi ychydig ddyddiau yn ol, yr oedd pethau wedi cyfnewid er gwell i wneuthur archwiliadau pellach, gan fod yr amaethwr wedi aru ei gwyneb. Ym mhlith y pethau hynotaf i brofi ein pwnc oedd y cerryg bychain oeddynt wedi eu troi i fyny yn y pridd gwelem ar unwaith eu bod wedi bod mewn tân, a'u llosgi yn gochion; ac yn y Wersyllfa yn unig yr oeddynt felly, ac nid ar hyd y cae yn gyffredinol. Dyna'r llythyrau olaf a ddarllenasom oddiar aelwydydd hen wroniaid yr Amddiffynfa gerllaw Meillionydd.
"Dangos a ystyr,
Ystyr a ddysg,
Dysg a feddwl,
Meddwl a ddeall,
Deall a wybydd."
Amddiffynfa Geltiberaidd "Mynydd-yr-Ystum."
RHAG i chwi gredu fy mod yn bathu geiriau heb drwydded, efallai y goddefwch i mi ddywedyd fod y gair Geltiberaidd fel enw cyfansawdd mewn arferiad oddiar dyddiau Diodorus a Strabo. Ni a obeithiwn oddiwrth yr hyn a ddywedwyd o'r blaen eich bod bellach yn gwybod beth ydym yn feddwl wrth y gair "Gelt." Ond beth yw y terfyniad peraidd yna ydys wedi ei ychwanegu ato? rheswm ydyw hwn. Gan fod haneswyr yn barnu mai yr un bobl oedd y Cynwys, neu'r Canganiaid â'r Iberiaid, a bod y llwyth Celtaidd wedi ymgymmysgu â hwynt, galwyd eu disgynyddion yn