am danynt. Yn ol pob tebyg, araf fyddai symmudiadau yr hên oresgynwyr yn y parthau hyn. Clywais son unwaith am berchenog tyddyn bychan yn ymyl ialdir (common); a chan ei fod yn ychwanegu ei dir, a hyny am ddim, efe a ddechreuodd symmud diffynfa (fence) ei dyddyn ychydig ar ol ychydig yn nês i fewn i'r ialdir, nes o'r diwedd yr aeth a darn helaeth o hono at ei wasanaeth ei hun. Nid ydym yn amheu, wrth gymmeryd pobpeth i ystyriaeth, nad ydyw hyn yn bortread lled gywir o'r dull yr oedd y Celtiaid yn gwthio ym mlaen i ialdir y Cynwys. Darllenwn hyn oddiwrth ffurf yr Amddiffynfa hon, fel yr un o'i blaen; oblegyd y mae esgynfa serth y naill fel y llall yn gadarn, anhygyrch, ac yn gwynebu y gelyn, tra nad yw y tucefn mor ddiogel, gan mai yn y cyfeiriad hwnw y trigiannai eu pobl hwy eu hunain. Fel hyn, gallwn gyfeirio i'r fangre lle yr oedd perygl, ac i wastadedd yr ymdrechfa. Nid gwlad gyfan a allasai fod yma yn milwriaethu yn bresennol, ond ysgatfydd llwyth yn erbyn llwyth, neu dreftadaeth (estate) yn erbyn treftadaeth.
Gan y byddai yr Hynafiaethydd a'r ymchwilgar yn ewyllysio gwybod rhywbeth yng nghylch natur adraniadau felly o'r wlad, digon yw dywedyd mai rhyw fath o berchenogaethau neu hawliau bugeiliol oeddynt, fel y gallwn gasglu oddiwrth sefyllfäoedd a gwneuthuriad yr amddiffynfeydd hyn; oblegyd cawn ynddynt, ac o'u hamgylch, seiliau ac olion tai lawer, tra y mae y wlad yn amddifad o'r cyfryw adeilweithiau, yr hyn sydd yn ein harwain i feddwl fod cyn-drigolion yr anneddau yma yn myned allan i'w meusydd rhyddion (heb glawdd na pherth), ar hyd y dydd, ar ol eu praidd, neu eu hanifeiliaid, ac yn dychwelyd at eu gilydd erbyn yr hwyr, i dreulio'r nos fel byddin yn eu Gwersyllfa ddiogel, a'u deadelloedd efallai gerllaw. Ac os astudiwn anianaeth y praidd, cawn fod yn natur y ddafad dueddiad i esgyn erbyn yr hwyr i ochr y mynydd, i gael cysgod a lle sych i