yr oes hon wersi rhybuddiol mewn geiriau wedi eu lliwio â gwaed. Dôs yspeilydd brwnt i lŷs Cyfiawnder, a dysg Onestrwydd, ac na thyr yn dragywydd ar draws hawliau arall.
"Edrych yn y drych hwn dro,
Gyr galon graig i wylo."
Yn y Castell uchod yr oedd gelyn oddifewn a gelyn oddiallan—un yn elyn ar dir gonestrwydd, a'r llall yn elyn ar dir lladrad. Mewn gwirionedd, ni fu waeth dau elyn erioed—Gonestrwydd yn erbyn Lladrad. Ymddengys muriau y Caer y rhai cadarnaf a welsom—yn mesur tuag un llath-ar-ddêg o lêd, ac mewn cynllun yn grwn fel yr haul ei hun, yr hyn sydd yn ddigon o reswm dros ei alw yn "Gastell Crwn." Er fod amser fel "cryf arfog" wedi gadael ei olion arno fel pob peth hen arall, etto, nid yw hender llythyrenau ei adfeilion yn gwadu ffeithiau athrist y gorphenol.
Tufewn i gylch yr amddiffynfa, fe'n harweinir at faen yn y ddaear a elwir yn "Garreg Arian," nid am ei bod yn debyg o gwbl i arian, ond am fod traddodiad ar lafar gwlad fod arian dani. Yr oedd yn hên arferiad ym mhlith gwahanol genedloedd i guddio eu trysorau yn y ddaear pan y byddai y gelyn yn debyg o ymosod, ac nid oedd yr un lle yn fwy attyniadol i wneuthur hyn nag yn y Castell. Ond y mae yn bwnc o ymchwiliad, pa un a oedd ganddynt arian I'w guddio ai peidio. Dywedir, mae'n wir, fod darn o aur bathedig wedi ei ddarganfod yn Neheubarth Prydain, a'i fod yn dyddio can belled yn ol â chant-a-hanner, neu ddau cant o flynyddoedd cyn Crist; etto, yr ydys yn amheu cyffredinolrwydd y bathiad hwn, a chredir ei fod yn perthyn i'r Gaulwys, gan fod Caesar yn dywedyd nad oedd arian yn cael ei fathu ym Mhrydain pan y tiriodd ef, cyn Crist, 55. Aur, cofier, oedd yr arian (money) cyntaf mewn bathiad yn yr Ynys hon; yr oedd arian (silver) yn ddiwedd-