Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn lle cael ei adael yn ddisylw, os nad i "farw o henaint." Nid yw y ffordd a agorwyd i lawr o Chwilog at ei wasanaeth yn cyrhaedd yn awr ym mhellach na chyfeiriad Bwlch Brudyn-cauwyd hi oddiyno i lawr i'r porthladd, am na thalwyd i Gefnammwlch am dani. Hysbysir ni, fel safon i wirionedd y gweithrediadau uchod, fod tý etto yn Chwilog, yr hwn a adeiladwyd a cherryg brithgochion craig Porth-Din-Llaen, er mwyn i'r dynion oedd yn gweithio ar y ffordd a nodwyd gael lle i letiya yn y cyfamser, ac yn ol tystiolaeth ein cyfarwyddwr, Gwyddelod oedd y rhai uchod fel eu cydfrodyr yn eu "Crellas" gerllaw y porthladd.


Cae'r Gorlan.

MAE natur y tir yma mewn rhyw fanau yn dywodlyd, ac o ganlyniad yn frau, fel y gellir dywedyd ei fod o'r dwfr, ac hefyd i'r dwfr, hyny yw, wedi ei gymmeryd o'r dwfr, fel y dengys y tywod, ac felly yn fwy tueddol na thir arall i fyned gyda'r dwfr. Gwelsom lawer gwaith gerllaw Môr Ellmyn fryncyn ar y traeth wedi ei ffurfio o dywod mân a llaid gan y môr ei hun, ac eilwaith ym mhen ychydig oriau yn cael ei ysgubo ymaith gan yr eigion mawr at ei wasanaeth yn rhywle arall, yr hyn sydd yn dangos fod y tir yn beth symmudedig fel y môrgwelir tonau ar wyneb y dyfnder yn mudo, ac fe welir hefyd ddarnau o'r ddaear ar bwys y traethellau yn mudo. Gyda gwneuthur ychydig archwiliadau, cawn fod y môr wedi agor ogofeydd i fewn i drŵyn creigiog a thywodlyd penrhyn Porth-Din-Llaen; gelwir un yn "Ogof Dywell," a'r llall yn "Ogof-yPebyll." Y mae'r ddaear wedi llithro i lawr, a soddi yn geudwll uwchben yr olaf, fel y mae plant yn