myned i lawr, i fewn iddi, ac allan yn y pen arall ar y traeth, pan y mae'r môr wedi cilio draw, ac yn brysur wrth ei waith mewn rhanau eraill o'r byd. Yr oedd ein harweinydd (guide) wedi ei eni yn "18 ddwywaith," meddai efe, sef yn 1818, ac felly yn 72 mlwydd oed; a chan ei fod yn enedigol o Borth-DinLlaen, ac wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn y lle, yr oeddym yn teimlo ein bod mewn cymmundeb â chyfrwng byw rhwng yr oes sydd wedi myned heibio a'r oes yr ydym ynddi, ac felly yn gyflawn o hyfforddiadau, fel y dywed y ddiareb, "Yr hen a wyr, a'r ieuanc a dybia." Ar ol iddo ein harwain i Gae'r Gorlan, dywedodd wrthym fod pobl y gymmydogaeth yn dweyd fod y pantle a welir yn y cae uchod yn araf suddo i lawr! Cyfeiriai ein golygon at glogwyn uchel Carn Madryn yn y pellder ar y cyntaf, ac eilwaith at drum bryncyn oedd yn ymgodi rhyngom a'r Garn grybwylledig, ac fel yr oeddym yn cilio i lawr i'r pantle dan sylw, gan gadw ein llygaid ar y trum a nodwyd, yr oedd Carn Madryn yr ochr draw iddo bron a myned o'r golwg. "Ond," meddai yr hên ŵr, "yr oedd y Garn, yn ol syniad yr hen bobl, i'w gweled unwaith bron i gyd o'r fan yma. Ac felly, rhaid fod naill ai y Garn yn soddi, neu'r ysmotyn hwn, neu fod trum y bryncyn y cyfeiriasom ato yn ymddyrchafu, os ydyw golygiad yr hen bobl yn wir. Etto, gan eu bod yn cofio Cae'r Gorlan yn fwy gwastad (level), rhaid mai y pantle hwn sydd yn araf suddo!" Wedi dweyd y pethau rhyfedd hyn wrthym, llawer oedd y meddyliau a gyniweirient i wersyll ein deall yng nghylch gwahanol ddeddfau yn natur. Ond wrth ystyried y môr sydd yn curo, yn ymarllwys, ac yn agor ogofeydd i grombil y penrhyn gerllaw; їе, wrth gymmeryd hefyd i ystyriaeth natur y pridd tywodlyd yn y pantle, ac heb allu gwybod pa gyssylltiadau a allasai fod rhwng ei waelodion â dyfroedd afionydd y Werydd, nid oeddym yn gallu gweled dim afresymoldeb annichonadwy yn y gosodiad. Beth
Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/50
Gwedd