Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bynag, nid oes genym ond rhoddi yr hysbysrwydd ydym yn gael, a gwnaed y darllenydd yr hyn a fyno o hono. Cawsom yr un dystiolaeth, a gwelsom yr un effeithiau mewn ysmotyn arall gerllaw Amddiffynfa Ysgubor Hên yn Cilan. (Cf. cil yn cilio.)

Din-Llaen.

GWIR fod y gair "Din" yn dinas, a thref yn cartref; etto, nid ydym i gredu eu bod yn gyfystyr. Gan na fuodd erioed Ddinas ar benarth Porth-Din-Llaen, nid Dinas Lleyn yw Din-Llaen, fel y dychymygir yn gyffredin, ond (Din=) Amddiffynfa Lleyn, yr hyn ydyw yr ystyr llythyrenol. Yn awr, gwelwn ein bod yn cael ein harwain i ddyryswch; oblegyd wrth ddywedyd Amddiffynfa Lleyn, gallasid meddwl mai hon yw yr unig amddiffynfa yn Lleyn, yr hyn sydd ar unwaith yn milwrio yn groes i ffeithiau Hynafiaethol y rhandir. Nid ydym yn gwybod ond am ddwy ffordd i ddyfod allan o'r anhawsder hwn. Yn gyntaf, os cedwir at y syniad mai y trigolion eu hunain a'i galwasant hi yn "Amddiffynfa Lleyn," ac amddiffynfeydd eraill yma ar y pryd, a'r rhai hyny yn fwy o faint, ac ar leoedd mwy manteisiol, yna, rhaid i ni chwilio am ryw ystyr i'r enw Lleyn, heblaw yr hyn sydd genym, onidê, fe aiff ffeithiau i siarad yn erbyn eu gilydd. Gwelir yn barod fod yr enw ar y lle uchod yn cael ei ysgrifenu yn "Llaen," ac nid yw yn amhossibl nas gellir rhoddi cyfrif am y gwahaniaeth. Un a ddywed mai yr ystyr yw "Lagina, neu Laina," fel y seinir efallai y gair, ac mai y meddwl yw "Gwaywffyn," yr hyn sydd yn gwneyd "Din-Llaen" yn "Amddiffynfa-y-Gwaywffyn." Ond anhawdd meddwl nad oedd "gwaywffyn" hefyd yn cael eu defnyddio mewn