gwahanol amddiffynfeydd eraill yn Lleyn, yr hyn ni fyddai yn ddigon o reswm i briodoli yr arbenigrwydd hwn i un amddiffynfa yn fwy na'r llall. A chymmeryd yr ochr hon o'r ddalen o gwbl, ac nid mwy cydweddol a diwyg tebygolrwydd fyddai golygu "Llaen" uchod yn gyfystyr à "Llain," oherwydd y mae y penrhyn yn rhedeg yn "llain" i'r môr; ac felly, yn unol â'r syniad hwn, byddai "Din-Llaen" yn myned yn "Amddiffynfa-y-Llain," heb fathru cyrn yr Hynafiaethydd, nac amharu ar ei udgyrn ychwaith. Ond, yn yr ail le, ai nid enw yn ei ffurf Goidelaidd ydyw "Din-Llaen?" Os felly, y mae yr enw i fesur mawr yn estyn ei ystyr at boblogaeth y tu allan i Leyn. A chan hyny, byddai "Din-Llaen" yn "Amddiffynfa" yn perthyn iddynt hwy yn "Lleyn". Tystiolaetha hanesyddiaeth fod y Gwyddelod yn hên drigolion yn y parthau hyn. Gwelir eu "cytiau" yma yn y creigiau a'r mynyddoedd hyd y dydd heddyw, ac y mae enwau lleoedd fel "Barach," &c., yn cadarnhau hyny. Ond nid oedd eu bod wedi cael eu hymlid o'r wlad i'r Werddon gan y Cymry yn ddigon o attalfa ar eu dychweliad yn ol i gyflawni eu dichellion. Er fod rhai yn barnu mai Amddiffynfa Rufeinig ydyw "Din-Llaen," nid ydym yn meddwl fod eisiau myned mor bell â Rhufain mor foreu a'r cyfnod hwn i chwilio am elynion tra y mae Hibernia yn y golwg; oblegyd, wrth bob argoelion, gellir casglu fod llongeidiau o Wyddelod ryw oes wedi tirio ym Mhorth-Din-Llaen, a chymmeryd meddiant o'r porthladd, yn ogystal a'r penrhyn sydd gerllaw. Y mae holl gynllun a gwneuthuriad yr Amddiffynfa yn ffafrio y golygiad hwn. Hawdd gweled oddiwrthi mai o gyfeiriad Lleyn yr oedd y gelyn yn ymosod, ac nid o gyfeiriad y porthladd a'r môr; oherwydd y mae y Mur a'r Rhag-fur yn wynebu y wlad, ac yn amlygu yn eglur y prif amcan, sef ei chau allan rhag perchenogi y pentir, a thori hefyd ei chyssylltiadau â'r porthladd. Fel hyn y byddai Môr-ladron
Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/52
Gwedd