yn gwneuthur yn gyffredin, er diogelu eu hangorfa. Nid yn fynych yr ydym yn gweled Mur a Rhag-fur dau-ddyblyg, ond y mae felly yn yr Amddiffynfa hon; a gwelir olion y "cytiau" yn y ddaear yn amlwg mewn rhyw fanau. Gan fod y penrhyn yn ddigon noeth, gwlyb, ac anffrwythlawn, yn enwedig y pen pellaf, gellir tybied eu bod yn fwy esgusodol, ac felly yn cael mwy o lonydd na phe buasai yn dir da. Oddiwrth hyn hefyd gellir barnu mai nid amaethwyr oedd y bobl hyn y môr oedd eu ffau. Rhaid mai y prif beth a werthfawrogent yma oedd y porthladd, a da oedd ganddynt gael rhyw ysmotyn i wneuthur eu cartref, a hyny mewn lle mòr gyfleus at eu galwedigaeth. Tueddir ni i gredu fod yma luaws o drigolion unwaith yn byw, oblegyd dangoswyd i ni ddim llai na dwy gladdfa, ac fe ddywedwyd wrthym fod penglog[1] wedi ei ddarganfod yn un o honynt tua dêgar-hugain mlynedd yn ol, gerllaw Bwlch-y-Tywod. Methwn roddi cyfrif am liw y pridd, yr hyn sydd yn goch oddiamgylch "Ogof-y-Pebyll," os nad oeddynt yn defnyddio tywyrch i wneuthur tân, ac mai effeithiau y lludw a'r tân a ddangosid ini. Etto, yr oedd ein harweinydd yn ceisio ein darbwyllo fod y fan wedi bod unwaith yn fynwent, gan eu bod amryw weithiau wedi gweled esgyrn dynol yn y pridd.
Ond un o'r pethau hynafiaethol mwyaf cywrain yn yr holl le oedd "Cwmpawd" (compass) yr Amddiffynfa. Yr oedd hwn wedi ei gerfio yn y ddaear, ac felly wedi ei wneuthur i gyd o bridd, a'r werddlas wedi tyfu yn brydferth ar ei wyneb, ac ymguddiai mor ddirgelaidd, fel na fuasem byth yn ei ddarganfod, na meddwl am dano, heb gyfarwyddyd. Cynnwysai
- ↑ Yn "Englynion y Beddau," sef cof-englynion beddau yr hên filwyr Prydeinig, cawn y llinellau canlynol:
"Bedd Gwydion ap Donn ym Morfa Dinllen
Dan vain dyfeillion
Garanawe y geiffyl Meinon."