bedwar bys, neu yn hytrach bedwar pwynt, a'r rhai hyny yn dra chywir o ran eu cyfeiriad. Pwyntiai un bŷs i'r Gogledd, y llall i'r Dwyrain, y llall i'r Dê, a'r llall i'r Gorllewin. Ni welsom "Gwmpawd" wedi ei ffurfio yn y ddaear o'r blaen, a gallwn feddwl wrth ei gynllun dieithrol ei fod yn hen iawn. Diamheu mai amcan ei wneuthuriad oedd dangos i'r goresgynwyr estronol "Bedwar Bàn y Byd" yn eu goror newydd, er mwyn gosod eu llongau i fyned i'r iawn gyfeiriad pan yn troi allan i'r mór.
Mae Cymru ar hanner gwên,
Yng nghanol ei phethau hên.
Dinas.
Y MAE capel o'r enw hwn ym mhlwyf Llaniestyn; a byddai yn anhawdd i'r anghyfarwydd, ond odid, esbonio pa fodd y galwyd ef yn "Ddinas," gan nad oes na thref na phentref yn perthyn i'r lle, nac unrhyw arbenigrwydd felly yn galw am y fath enw. Ond, fel yr ydym wedi amlygu eisoes, gan fod y gair "Dinas," drwy wahanol achosion wedi newid ei ystyr, a'i fod yn oes hynafiaethol yr iaith Gymraeg yn golygu "Amddiffynfa," nid ydym yn rhyfeddu pan ddywedir wrthym mai nid am fod y capel yn "Ddinas" y galwyd ef wrth yr enw hwn, ond yn hytrach am fod cerryg ei furiau wedi cael eu trosglwyddo o graig a elwir chwarrel Dinas. Yn awr, beth all fod y rheswm fod ysmotyn y gloddfa hon yn cael ei alw yn "Ddinas?" Oherwydd y mae yn llawn mor afresymol galw bryn yn "Ddinas," a galw capel felly. Os oes rhywun am amheu ein gosodiadau blaenorol, attebed i ni y gofyniad hwn. Ac os ydyw mor "ddwl" a chredu fod tŷ yn Ddinas," y mae yn rhaid ei fod mor "ddel" a chredu fod "Dinas" yn