dy! Ond i adael y bychan gyda'i fychandra, ni a ymafiwn yn y deddfau a gymmerasom mewn llaw. Yn ol pob tystiolaeth a gawsom, ac yn unol âg amlygiadau geiryddiaeth a phob seiliau hynafiaethol, yr oedd gan yr hên Gymry eu Hamddiffynfa (Din= Din + as) ar ben y tŵyn crybwylledig, ac yn cyrhaedd tros wyneb y lle y saif y gloddfa yn awr, ac am hyn y galwyd y chwarrel yn "Ddinas." Yn gymmaint âg mai â meini craig, seiliau, a muriau yr hên "Ddinas" (Din=Amddiffynfa) yma, fel y dywedwyd, y cafodd y "tŷ cwrdd" dan sylw ei adeiladu, y mae peth llawn mor rhyfedd yn digwydd â'i fod mewn canlyniad yn cael ei alw "Dinas!" Oddiwrth yr hyn a amlygir gan Hynafiaeth ystyr yr enw, gorfodir ni i restru y "Din" hon yn yr un cyfnod â "Din-Dywydd" a "Din-Llaen." Diau ei bod yn atteb yr un diben ac o'r un gwneuthuriad, er nad oes dim o honi i'w gweled yn bresennol, gan fod y chwarrel wedi cymmeryd ei lle.
Amddiffynfa Ysgubor hen.
NID ym mhell o Weithfäoedd Mwn Llanengan, gerllaw y môr, y saif yr Amddiffynfa hon, mewn lle peryglus o serth, a rhamantus i'r eithaf. Diogelir un ochr gan graig ofnadwy y traeth, lle y gwelir ambell dderwen fechan yn tyfu ar wyneb y Ilithrigfa, a chan fod y coed hyn yn gynnyrchion dieithr yn y dreflan hon, bernir eu bod wedi cael eu planu gan breswylwyr yr Amddiffynsa o ran edmygedd a pharch at egwyddorion yr hên Dderwyddon; ond methwn weled un math o sail i'r gosodiad hwn. Gwahaniaetha y Wersyllfa hon yn fawr oddiwrth y gweddill o'r adeilweithiau hyn yn Lleyn. Ffurfiwyd y Caer, yr hwn sydd yn mesur tuag wyth llath o led,