â rhyw fath o gymrwd (mortar), ac y mae mur cerryg fel asgwrn cefn yn gladdedig yn ei ganol, oddiwrth yr hyn y gellir casglu yn gyntaf fod y meini yn brin, ac hefyd eu bod yn cael eu defnyddio i sicrhau y llaid wrth ei gilydd, yn ogystal âg i adgyfnerthu y mur dau-ddyblyg. Yn ymyl y Caer, ac yn cyd-redeg âg ef, y tu allan, y mae ffôs ddofn, yr hyn sydd yn dwyn ar gôf i ni "vallo fossāque munire" Julius Cæsar, ac a'n harweinia i feddwl fod yr Amddiffynfa hon wedi bod o wasanaeth i'r Rhufeiniaid pan yn codi plwm yng ngwaith Llanengan, er y gallasai, cyn eu goresgyniad, fod ym meddiant y brodorion eu hun, fel y bu ar ol hyny. Yn y maes gerllaw, gwelsom olion yr hên fur a elwir "Y CLAWDD MAWR," yr hwn sydd o'r un gwneuthuriad yn hollol à Chaer yr Amddiffynfa. Mesura, can belled ag yr ydym yn cofio, tua dêg llath o led, a diamheu ei fod gynt yn cyrhaedd o'r Wersyllfa i lawr i Borth Caeriad. Yr oedd mor llydan fel y dywedir fod yr amaethwyr unwaith gyda'u mulod yn trosglwyddo tywod o'r môr ar hyd-ddo i fyny at wasanaeth eu tir. Bu ŷd y degwm yn cael ei osod ar ei ben ar ol hyn i'w roddi ar werth (auction). Erbyn heddyw, y mae y rhan fwyaf o'r Caer yma, a elwir "Y Clawdd Mawr," wedi ei chwalu a'i gludo ymaith, fel y mae yn annichonadwy ei olrhain, oddieithr mewn manau.
Nid yw Traddodiad yn ddistaw wrthym ychwaith yng nghylch brenhin yr Amddiffynfa, yr hyn sydd yn awgrymu lleoliad y gallu llywodraethol i'r fangre ei hun. Dywedir ei fod wedi cael ei gladdu yn y pant rhwng y Gwersyll â'r môr, dan dair carreg wedi eu gosod fel "tair-troed-trybedd," a hod un o'r tair yn dair-onglog, rhywbeth yn debyg i'r llythyren V, neu Isosceles Triangle; ond er chwilio llawer, methir hyd yn hyn, cael gafael yn y bêdd.
Y brenhin a lecha'n ddirgelaidd gerllaw,
At lwch ei weddillion un dewin ni ddaw.