Amddiffynfa Pen-y-Gaer.
YMGODA y ddaear, o bwynt y môr, fel Caer ym mlaen heibio pentref Llanengan, ac ar gopa y bryn, yn y gongl, gyferbyn a Llangian, lle y troa tua chyfeiriad Abersoch, y gwelir yr Amddiffynfa hon. Y mae tua thri—chan—llath gylch ogylch, a thair—llathar—ddêg—a—deugain ar draws, tufewn i seiliau y Mur a'r Rhag—fur, y rhai ydynt wedi cael eu tynu i lawr, a'u gwasgaru erys blynyddoedd, er fod un ochr etto yn cael ei chau i fewn gan glawdd llydan bwäog, yr hwn sydd wedi ei wneuthur o'r hên weddillion, a'i godi ar sail yr hên Gaer. Y mae y pridd ar wyneb y cyntedd wedi ei gymmeryd ymaith yn llwyr tuag at gwblhau yr adeilweithiau, fel nas gallwn ystyried y canol ond megys aelwyd lân o graig noeth. Gwariwyd llawer o amser ac arian i chwilio am haiarn dan ei sail, ond gallwn feddwl mai y peth mwyaf a gafwyd yn y diwedd am y llafur a'r drafferth oedd siomedigaeth. Ar un llaw y mae llechwedd serth yn ei diogelu, a'r afon Soch drachefn fel ffôs ar y gwaelod yn ei wregysu, gyda'r lili wen yn prydferthu wyneb ei dyfroedd. Caiff hyn atteb y diben yn bresennol fel desgrifiad o'r lle.
Gan fod llawer o adnoddau Hynafiaeth yn dyfod i'r golwg yn aml yn ystyr yr enw, nid priodol fyddai i ni fyned heibio i'r gair "Caer" yn y fan hon, heb wneuthur sylw o hono. Ceir ef mewn gwahanol ieithoedd fel y canlyn:—Pers., car; Phœnic., kartha; Pun., karta, cartha, cirtha; Syr., karac=amgauad, kerac=amddiffynfa; Cald. & Syr., kartha=trêf; Arab., carac=amddiffynfa; Basg., caria; Chin., cara= trigfa; Jap., kar=ty; Troj., cair; Scyth., car; Hindoo., gurh=caer; Gael., cathair; Gwyddel., cathair, cathir (ac a seinir cair); Llyd., cear, ker; Cern., caer, yr hyn a ddengys mor gyffredinol yw y gair hwn ym