mhlith gwahanol genedloedd y byd, ac a aiff ym mhell i brofi ei bod yn anhawdd meddwl fod yr iaith Gymraeg hebddo pan y daeth y Rhufeiniaid i'n gwlad, er fod rhai yn barnu ein bod wedi ei fenthyca oddiwrth y gair Lladinaidd castrum; ond heb sôn nas gellir rhoddi cyfrif am gyfrgolliad yr st yma yn ein iaith ein hun, y mae Caesar yn defnyddio y gair yn Caeraesi, a Tacitus yn gwneyd yr un peth yn Caeracates, yr hyn sydd yn cadarnhau fod y gair "Caer" genym cyn ymsefydliad pobl Rhufain yng Nghymru. Felly, nid ydym yn teimlo yn rhwymedig i gredu fod y Rhufeiniaid wedi bod yn cyfanneddu yn yr Amddiffynfa hon, oherwydd fod "Caer" yn cael ei gamdreiglo o'r gair "castra." Yr unig beth sydd yn ein tueddu i ddywedyd ein bod yn barnu ddarfod i'r estroniaid crybwylledig fod mewn meddiant o'r "Gaer" yma ydyw eu lladrad beiddgar o'r "Gwaith Plwm" gerllaw, a'r amddiffyniad angenrheidiol i ddiogelu golud mor fawr. Ond ciliodd y Rhufeiniaid i ffwrdd, a syrthiodd y "cyfoeth" a'r "caerau" drachefn i ddwylaw yr hên etifeddion.
Amddiffynfa Abersoch.
UN o ddiarebion hoffaf yr hên Geltiaid oedd, "Haws dadleu o goed nag o gastell;" ond arwyddair eu plant oedd, "Gwell un cynnorthwy na dau wŷs." Diau fod llawn cymmaint agosrwydd rhwng "dadl" a "gwys" ag sydd o berthynas rhwng mam a merch; a gall fod "cynnorthwy" a "chastell" yn ddau frawd. Ac os ydym am olrhain eu "hil" a'u “hách” yn fanylach, rhaid i ni edrych pa mor debyg ydynt i'w gilydd. Os gwada'r du a'r gwyn fod "dadl" yn "wŷs," cyfaddefa'r naill fel y llall fod "castell" yn "gynnorthwy," a phwne o "ddadl"