Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddai profi nad yw pob "cynnorthwy" mewn rhyw ystyr yn "gastell." Rheswm byr—diareb arall a ddywed—"Castell pawb ei dŷ." Cyfrinion iaith ydynt dra dyrus, ac nid yn anfynych yr ymgolla dyn yn ei thröellau. Mewn rhyw amryfusedd cyffelyb yr oeddym pan yn chwilio am yr Amddiffynfa uchod. Soniwyd yn gyntaf wrthym am "gastell." Ond pa le y mae? oedd yr ymofyniad. Gwyddom yn ddigon da, trwy weriniaeth a gwareiddiad, erbyn heddyw mai "Castell pawb ei dŷ," ond nid dyna'r "Castell" y chwiliwn am dano. Ym mlaen a ni at letty bychan digon hardd, a elwir "Castell;" "ond," meddai ein cydymaith, "nid hwn ydyw yr ‘Hên Gastell." Heibio a ni y tu draw i'r ardd; ac yn ol eilwaith i'r ardd i edrych olion rhyw hên furddyn yn y fan hono, ond yn aflwyddiannus. Yr ydych yn camgymmeryd yn fawr, meddwn wrtho, os bu yma "gastell " erioed, y tu cefn i'r tŷ ar ben y tŵyn yr oedd. Wedi dringo i fyny, canfyddem sail yr hên Amddiffynfa yn ddigon amlwg. Gorchuddia gongl y bryncyn, a gellir gweled pantle y "garth" yn y canol, a chodiad tir yn gylch am dani, ar yr hwn y safai y "caer." Y mae clawdd yn arwain oddiwrth y tŷ newydd sydd gerllaw, tua chyfeiriad gardd y "Castell" a "chaer" yr hên Amddiffynfa ar y trum. Nid oes eisiau i'r ymofynydd ond dringo i ben y lle olaf i weled priodoldeb ein gosodiad. Er fod cannoedd lawer o flynyddoedd er pan chwalwyd yr hên Wersyllfa hon, gan mai pridd ydoedd defnydd y "caer," gwelir ei sail hyd y dydd heddyw fel modrwy gron ar wyneb y maes; ac oddiwrthi hi y cafodd y tŷ gerllaw ei alw yn "Gastell" fel yr hên furddyn o'i flaen.

Diben yr Amddiffynfa yma yn yr hên amseroedd, yn ogystal â'r un sydd genym wedi ei desgrifio yn barod ar benrhyn Porth—Din—Llaen, ydoedd gwylio y porthladd. Nid oes ond yr hanesydd a ŵyr am yr ymosodiadau a wnaed ar Leyn gan longau—rhyfel gwyneb y Werydd yn yr oesoedd terfysglyd a aethant