Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddill o wlad Lleyn. Y mae gardd y tŷ a elwir "Castell Cilan" yn awr ar wyneb "crug," neu "orsedd" uchel yr hên "gastell," a'i chlawdd yn gylch crwn tebyg i O o'i hamgylch, yr hyn sydd brawf ei fod yn sefyll ar seiliau hên "gaer" yr Amddiffynfa. Y mae yr ochr sydd yn wynebu Llanengan yn serth, uchel, a chadarn; ac ymddengys fod yr holl bridd wedi cael ei gludo yma gan y milwyr. Fath ddarlun o ddiwydrwydd, gofal, a dewrder! Nis gallwn lai na rhyfeddu uwchben yr olygfa.

Y Talwrn hwn, fu gynt yn Gastell hardd,
Sydd erbyn heddyw yn fodrwyog ardd!


Cad-Lys Mynytho.

YSGRIFENID "Câd-Lys" yn y MSS. cyntefig mewn llawer iawn o ffyrdd. Rhoddwn y gair "Câd" i ddechreu, sef "câd," "cât" (engraipht, "Catmor," [mor mawr]), "câth," (th=t), "catu," ac ar ol hyn, "cas" (s=z=ds=d). Gŵyr pawb beth ydyw peth "câs." Yn y gair cadw y gwelwn oreu wreiddyn "câd," sef byddin yn cadw ei heiddo. Y mae hên ddullwedd y gair "Llŷs" fel hyn, "lês," "las," "lais," "leas," "liass," "lios," "lêz" "lis." Nid awn i ladd amynedd neb gyda bwrn o fanylion ar wahanol dröellau y gair fel yma, ond yn hytrach, i ddwyn yr hyn a loffwyd i bwynt yn fyr, credwn ei fod yn golygu lle i weinyddu cyfiawnder, mewn rhyw ddull neu gilydd, yn yr holl gyflëadau a amlygir i ni o'i brif arbenigrwydd yn ei ystyr cyntefig. Cofier ein bod yma yn myned heibio ei arwyddocad ail-raddol.

Ar yr ysmotyn gerllaw, y mae gweddillion hên Amddiffynfa, yr hon sydd yn edrych yn dra ardderchog,