am fod clawdd wedi ei godi gylch-ogylch iddi ar sail yr hên Gaer, ac felly wedi ei gwneuthur yn gae crwn, ond hynod o dlws, ar ei ben ei hun. Mesura'r cylch tua chant-a-thri-ugain o latheni i linell terfyn y Rhag-furiau, ac y mae'r Cyntedd yn bymtheg-llathar-hugain ar draws. Yma yr oedd Gwersyll y milwyr. Gallwn feddwl fod y lle gynt yn llawer eangach nâ'r hyn a welwn yn awr; oblegyd cawn yma adeilad a fu yn cael ei gylchynu unwaith gan Gaer, yr hwn sydd erbyn heddyw wedi ei dynu i lawr a'i wasgar, er ein bod yn meddwl y canfyddwn ol ei seiliau etto mewn manau. Yn y fan hon yr oedd y "Llŷs." Gellir gweled y Porth oedd yn arwain o Ystafell y Penciwdod i'r Dadleudy, a Phorth arall yn yr ochr Ogleddol i fyned allan. Un o'r pethau cryfaf i brofi y gosodiad hwn oedd y Ddaear-gell dan y "Llŷs," lle y carcherid y drwg-weithredwyr; ond y mae y "Gell Ddu" wedi cael ei chau erys blynyddoedd, a'r hên “Lŷs Barn," drwy chwildröadau amser, wedi ei wneuthur yn gydwastad â'r llawr.
Darganfyddwyd darn o aur bathedig yma amryw o flynyddau yn ol, yr hwn oedd yn gymmaint à dimai, ond yn deneuach. Dywedir wrthym ei fod yn hollol grwn, ac amryw lythyrenau yn argraphedig arno. Trueni mawr ei fod wedi ei golli; oblegyd gallasai fod o wasanaeth ammhrisiadwy i'r Hynafiaethydd.
Ein hymofyniad nesaf ydyw, Pwy fu yn gwersyllu yn y fan hon? A'n hattebiad uniongyrchol yw, fod y cynlluniau bron i gyd yn Brydeinig, yr hyn sydd yn brawf diamheuol mai pobl ein gwlad ein hun fuodd yn ffurfio, ac yn gwneuthur defnydd o'r "Gad-Lys" yma ar y cyntaf. Ond y mae dau beth yn profi i'r Amddiffynfa fod ym meddiant y Rhufeiniaid ar ol hyny, sef y "Ffordd Rufeinig" gerllaw i "Waith Llanengan," ac ysmotyn y "GOELCERTH ANGLADDOL" ar "Dir Llosg" Cae Cerryg. Y mae llawer yn gwybod am y flaenaf, ond ychydig ŵyr am