yr olaf, ac yr ydym yn sicr y bydd yr ychydig hyny yn falch o gael gwybod beth fu yr achos o'r holl arwydd tan ar y "Tir Llosg." Er mwyn dangos cywirdeb y darganfyddiad, ni a osodwn i lawr yn gyntaf ddull y Rhufeiniaid o osod gweddilion marwol yr ymadawedig yn nhir eu "hir gartref," fel y gallo yr anghyfarwydd weled y ffaith, a barnu drosto ei hun. Y tu allan i'r Gwersyll, yn ol deddfau y "Deuddeg Taflen," yr oedd lle a elwid "Y Losgfa" (Bustum). Ffurfid ef yn "bedair-onglog" (square), tua 4 neu 5 llath bob ffordd; ac fel y dywed Strabo, yr oedd yn cael ei amgylchu gan feini. Ar y pedroryn hwn, gosodid coed ar eu gilydd yn berffaith ysgwâr, hyny yw, gyda phedair ochr gyfartal, rhywbeth yn debyg i allor, a gelwid hi "Ara Sepulcri"="Allor-y-Bêdd," neu "Funeris Ara"="Allor-yrAngladd." Addurnid yr ochrau gyda dail. Dygid y corph marw ym mlaen ar Elor (Lectica), ac ni thynid ef i lawr oddiarni, fel yn ein dyddiau ni, eithr yn hytrach, heb gyffwrdd â dim, gosodid ef a'r elor ar yr allor goed, a deuai perthynas agosaf yr ymadawedig ym mlaen, a chan droi ei wyneb draw, rhoddai yr allor ar dân, tra y teflid perarogl, llestri, dillad, cwpaneidiau, a disgleidiau o fwyd i'r fflamau. Fel hyn, llosgid y marw ganol nôs, nes yr oedd tân y goelcerth yn goleuo yr holl fro. Dyna oedd dull y Rhufeiniaid o roddi "pridd i'r pridd," a "lludw i'r lludw." Yn awr, gadawer i ni droi at yr olygfa sydd o'n blaen yn y "Tir Llosg." Yma y mae llecyn bychan pedronglog, hyny yw, cymmaint o lêd âg o hŷd, yn cael ei gau i fewn gan gerryg ar eu talcenau yn y ddaear, y rhai ydynt oll wedi eu llosgi gan dàn. Wrth chwilio cafwyd llain o ludw du, tua llathen o ddyfnder, ar draws yr ysgwâr, rhywbeth yn debyg i fêdd, neu gorph dyn, o ran hŷd a lled. Yr oedd y lludw hwn yn llawn o goed wedi eu golosgi, darnau o lestri pridd, ac un llestr copr, neu efydd. Beth bynag oedd ei ddefnydd, yr oedd mor frau fel y
Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/63
Gwedd