maluriai gyda'r cyffyrddiad lleiaf. Ond heb fanylu, dengys yr holl brofion hyn mai gweryd sylfaen Allor Angladdol y Rhufeiniaid oedd y fangre ryfedd dan sylw. Byddent yn taflu llestri llawn o ddanteithion a pheraroglau i'r "Goelcerth," gan feddwl yn eu paganiaeth y buasai y pethau hyn o ryw wasanaeth i enaid y trancedig. Casglent yr ulw gweddilledig yn ofalus, a dodent ef mewn ystên fechan, yr hon a drosglwyddent yn eu mynwes i ddaear-gell y meirw, yr hon oedd yn gyffredin gerllaw yr Allor Angladdol. Gobeithio y darganfyddir y cynogau hyn etto cyn bo hir. Diamheu eu bod yn rhywle rhwng yr Allor â'r ffynhon sydd yn ymyl; oblegyd arferent fyned trwy ddefod o buredigaeth â dwfr glan bob amser ar ol claddedigaeth.
Amddiffynfa y Rhiw.
DILYN yr ydym etto yn ôl traed y gelyn. Fel y dywedodd yr anfarwol fardd, Goronwy Owain,
"Rhoe Gymru hên ochenaid,
A thrwm o bob cwm y caid
Trystlais yn atteb tristlef,
Ochain, ac wylofain lef."
Nis gwyddom pa sawl gwaith yr ydym wedi sangu ar ddaear sydd heddyw yn werdd, ond a fu unwaith wedi ei lliwio yn goch gan waed calon y Cymro yn marw gydag ochenaid wrth amddiffyn ei hawliau, yng nghanol bloeddiadau a chrechwen yr osgordd, heb hamdden i orchymyn ei enaid i Dduw. Dolef y fam drachefn yn rhwygo calon ei theulu, a ffynhonau dyfnder ei theimladau yn tori ar draws ei dwyrudd, tra y mae y gronglwydd yn cael ei hysgubo ymaith