Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uwch ei phen, a hithau yn cael ei hyrddio i fyd arall. Ei baban yn ei gryd drywenir a'r waywffon, a chyn pen ychydig fynydau y mae yr annedd yn furddyn, os nad yn fêdd i'w phreswylwyr.

"Bro Gwalia odidog, bêr, glodadwy,
Trwy ei hardaloedd tra rhed Elwy;
Tra llef dwfr-dwfn, tra llifo Dyfrdwy;
Trwy oesawg genedl, tra sio Conwy,"

fe fydd sôn a galaru am ei hên frwydrau a'i rhyfeloedd. Nid rhyfedd ynte fod Gair ein Tad o'r Nêf yn dywedyd, "Gwasgarer y bobl sydd dda ganddynt ryfel." Canfyddir ymlid o'r gwastadedd toreithiog a meillionog i'r llethr llwm, ac o'r llethr i binnaclau creigiog y clogwyn. O fynyddoedd cedyrn, cestyll ein cyndadau, llawer gwaith y buoch yn noddfa iddynt hwy rhag y bidog a'r cleddyf.

"Dyrcha'n uchel eu helynt.
A gwân adenydd y gwynt."

Rhyw feddyliau fel yna, megys ar esgyll colomenaidd o feusydd chwildroadau yr hên amseroedd, sydd yn ymweled â ni wrth agoshâu at Amddiffynfa y Rhiw, yr hon sydd yn seiliedig ar un o'r trumanau mwyaf rhamantus yn y fro. Y tu cefn y mae y Môr rhuadwy obry yn dangos ei lynclyn, a'r fulfran gyda'i hoernadau bolwag ar ei wyneb fel yn disgwyl am ysglyfaeth, tra y mae y dibyn ysgythrog a danneddog yn ei chysuro yn ei iaith gan sisial, os syrthia y briwsionyn lleiaf i'w ran ef mai i'w chelwrn hallt hi y caiff fyned ar unwaith. Gallesid meddwl y buasai bygythiad yr olygfa ysgorpionog hon yn ddigon ei hun i ddarostwng nerth esgeiriau y gelyn i'r hanner heb sôn am ddim arall.

"Erchyll celu archoll calon."

Ond pan edrychwn ar uchelder a chadernid y creigiau serth, talsyth, a chrogadwy ydynt yn gwylio ac yn