hylldremio gyda'u gwyneb garw yn chwiban ar y dymhestl mor ddiysgog ar eu hystlysau callestr yr ochr arall, a'u dewr gadfridogion gydag arfau dinystr yn gwarchod ar y Tŵr,
"Rhag gormeswyr, dig gurwyr geirwon,
Galanastra gelyn neu estron,"
hawdd darllen eu miwsig rhwng y cyfryngau, pan yn tori eu calonau wrth feddwl treiddio trwy fath gadernid oesol oedd o'u blaen.
"Holl haid y gwroniaid gau,
Ebychent wrth eu bachau."
Ar dalgarth y graig ddofn, uchel, ac adamantaidd y mae Mur Cerryg tewion hên Gaer Castell-cryf yr Amddiffynfa fel Modrwy Sadwrn yn sarphaidd droelledig o gylch coryn yr Yspagau.
"Gan ddychryn ar hyn y rhêd,
Doniau byrion dan bared;
Gwae lywydd, gwae i lawer,
Guro'r sawdl wrth gaerau'r sêr."
Wrth bob argoelion, er tristwch myfyr, gallwn feddwl fod y wlad yr adeg hon yn llawn o
"Alon dyhirion dihawl,
O dan wastraff dinystriawl;"
ac mewn llawer ystyr fod
"Bywyd yn faich-byd yn fedd,"
fel y canodd Dewi Wyn
"O brinder nifer, bu'r dewr hynafiaid
A braw o berygl o flaen barbariaid,
Anffawd aruthr, yn fföaduriaid :
O! warth, rhag rhydraws ruthrau crwydriaid."
Er mor noethlwm a diaddurn yr olwg ar yr Amddiffynfa hon, diamheu mai yma yr oedd cartref poblogaeth yr adran wladol a elwir yn awr Rhiw