Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unwaith. Beth bynag, yma yr oedd canolbwynt eu holl symmudiadau.

"Dirus uwch rhawd dyfnderoedd,
Aml ddrylliawg, gyflegrawg floedd,"

fu yn diaspedain o gwm i gwm, ac o glogwyn i glogwyn, pan y byddai y "Kôr Ghawr" yn ymaflyd yn hên "Gorn y Gâd," ac yn chwythu yn ei geudod diwaelod nes dadebru pob deall ac ewin i ymwregysu.

Udai, a nadai yn hyll,
I warchod y brad erchyll.

Nid Amddiffynfa o bridd yw yr uchod, ond o gerryg a chraig. Yr oedd Mur a Rhag-fur y dywarchen a'r pridd ar oriel y lawnt erbyn hyn yn rhŷ wan—rhaid bellach cael meini o'r fath gadarnaf, a'r rhai hyny wedi eu gosod fel torch Anacondas o gylch coryn y graig fwyaf anhygyrch ar gopa uwchaf y clogwyn peryglus, yr hyn sydd yn dangos fod y gelyn wedi cryfhau yn y wlâd, ac nad oedd le rhŷ ddiogel i ffoi rhagddo.

"Anghydfod, hell dynghedfen,
Naws o wae i'r Ynys Wen."

Cymmerwyd trafferth dirfawr i adeiladu yr Amddiffynfa hon. Nid gorchwyl bychan oedd cael y cerryg mawrion yma i fyny i'w lle. Ac wedi ei chwblhau, hawdd y gallasai y dinasyddion ddywedyd,

"Rhag cledd llachar, a tharian,
Ei dôr ni thyr dur na thân."

Ond er cymmaint y llafur a'r lludded fu wrth ei gosod i fyny, a'r dewrder a ddangoswyd pan yn ei hamddiffyn, hi a

"Ysgarwyd yn ysgyrion"

erys llawer o flynyddoedd bellach, fel nad yw y gweddillion a adawyd ond yn siarad

"Aml archoll i friwdoll fron,
Ac wylaw gwaed y galon."