Yn ol pob tebygolrwydd, hon oedd y "Gaer" olaf a adeiladwyd yr ochr yma i Leyn; ac y mae lle i gredu fod pinnaclau uchaf Gormes yn y gymmydogaeth hon wedi syrthio gyda muriau y ddiogelfa dan sylw.
Mae rhyfel yn tawelu,
Ond rhyfedd ei diwedd du.
Gan fod y Mellt, trwy gyfryngau y pellebyr, yn ewyllysgar i wasanaeth dyn, faint mwy y rhaid eu bod mewn ufudd-dod i'r Creawdwr Mawr? Dywedir wrthym fod mellten fel saeth o'r nef wedi cipio ymaith y llythyren gyntaf yn enw Cæsar yn ei neuadd, gyda thystiolaeth fod y nefoedd yn blotio ei enw. Felly mewn perthynas i'r hanes diweddaf a gawn am yr Amddiffynfa hon. Un diwrnod dyma daranfollt megys cleddyf tanllyd o'r entrych yn trywanu y graig yn ei hystlys, gan ei hagor i fòl ei hymysgaroedd.
Ytoedd i'w min fel y tawdd ymenyn.
Esgynai drachefn gan rwygo ac aru y Wersyllfa yn rhych, gyda bloedd "Gwasgarer y bobl sydd dda ganddynt ryfel."
Amddiffynfa Frythonig Carn Bodfuan.
Y MAE y byd erbyn hyn yn dechreu gweled gwerth ym mhob peth. Profa Athroniaeth mai yn y pethau bychain y mae mawredd Duw yn dyfod fwyaf i'r golwg. Gan hyny, chwilir i fewn i hanfodion bodolaeth y bychan fel y mawr. Os bu sylfeini a gweddillion adfeiliedig Babilon, Ninefeh, Thebe, Athen, &c., am oesoedd lawer yn gorwedd