"Pen-y-Felin" na "Phen-Dic-y-Felin" ychwaith yw ystyr y gair, ond "Penfelen," sef "Pen-y-belen," am fod y "Garn" yn hynod o debyg i "bêl."
Pan yn edrych fel yma i fewn i drysorfeydd hanesiaeth ein cyndadau, nis gallwn lai na choleddu y syniad fod y Creawdwr doeth wedi portreadu hên fynyddoedd cedyrn Cymru i fod yn gestyll i "weddill ei bobl" i ddianc iddynt yn amser dinystr, onidê, nis gwyddom na fuasent oll wedi cael eu difa â min y cleddyf, a'u hysgubo oddiar wyneb y ddaear. Hawdd canfod ar unwaith i'r "Garn" hon fod yn Amddiffynfa=Eolas Daingneachd=Dinas Gelf ardderchog gynt. "Tân ha mok yn Carna y sêf"="tân a mŵg yn y Garn y saif." Nid ydym er hyny i ystyried mai "tân a mŵg" y magnel a'r dryll sydd i'w olygu wrth y geiriau yma cofiwch, ond "tân ha môk" aelwydydd syml y Gwersyll ar y bryn, gan nad oedd y pylor etto wedi ei ddyfeisio fel elfen i wneuthur dinystr ar feddiannan a bywydau mewn rhyfel. Yn y cyfnod dan sylw, fe allwn feddwl oddiwrth yr hên frawddeg uchod, yn ogystal âg oddiwrth y darganfyddiadau a'r casgliadau ydym wedi wneuthur yn barod, nad oedd "tân ha môk" y tu allan i'r Amddiffynfa. Beth bynag am eu gwahanol anturiaethau ym mhell ac yn agos, yma yr oedd eu cartref a'u diogelfa yn amser ymosodiad y gelyn.
Pan y mae y dieithr yn cael ei arwain ym mlaen at weddillion dadfeiliedig unrhyw sefydliad, y peth a arweinia ei lygaid ef ato gyntaf yn fynych iawn fydd yr adeiladwaith cyfanaf. Felly yn y fan hon. Tynir ein sylw at rywbeth tebyg i dŵr bychan, ar lun pedol, ond ei fod ychydig yn fwy agored, muriau yr hwn ydynt yn dra ysgafn, ac yn cynnwys rhyw fath o ffenestri, neu dyllau hirion, y rhai ydynt gul yr ochr allanol, a llydan yr ochr fewnol. Methwn weled yn yr holl Amddiffynfa ddim ond dau furddyn o'r desgrifiad hwn; ac ar ol chwilio, cawn eu bod o ran eu gwneuthuriad yn dra gwahanol i'r gweddill o'r