adfeilion, ond wedi eu hadeiladu ar fonau, neu sylfeini muriau cadarnach, a hynach o lawer. Wrth ymofyn am reswm tros y ffaith fod muriau newydd ar hen furiau, hysbysir ni mai rhyw fath o dyrau cymhariaethol ddiweddar oedd y rhai hyn, wedi bod yn cael eu defnyddio fel llochesau, neu fath o guddfeydd i saethu llwynogod, yr hyn sydd yn ein harwain yn ol i'r hen amser pan yr oedd madyn yn mwynhau byd da helaethwych beunydd ar eiddo ei gymmydogion, i raddau fel y bu y blaidd o'i flaen.
I ddangos mawredd, helaethrwydd, cadernid, a phwysigrwydd "Krevidigez" yr hên wroniaid oeddynt yn chwifio teyrnwialen awdurdod yn uchelföydd bygythiol y "Garn" ysblenydd hon, gadawer i ni alw eich sylw at y "Caer" (cau) cerryg ergryf, tua dwy filltir o hŷd, a adeiladwyd fel gwregys gylchogylch y rhan uchaf o'r esgair, yr hwn sydd erbyn heddyw wedi syrthio, a'i chwalu yn enbyd mewn rhyw fanau; ond gellir etto ei ddilyn a'i olrhain gyda'r rhwyddineb mwyaf ym mhob lle. Y mae yma dynelli lawer o feini o hyd yn wasgaredig yn llinell (circle) Mur (vallum) yr Amddiffynfa, yr hwn sydd yn cael ei gryfhâu mewn manau gan Rag-fur, er fod llawer o'r cerryg wedi cael eu cludo ymaith yn ddiau. Beth bynag am hyn, dengys yr arwyddion amlwg sydd o'n blaen fod yma allu nid bychan yn gwersyllu o'i fewn; oblegyd rhaid fod yna luaws mawr o bobl wrth y gwaith, cyn y gallasent fyth ddwyn fath dynelli o gerryg at eu gilydd, a'u gosod yn faen ar faen, canys y mae yn fwy na thebygol, ar le serth fel yma, mai yn eu dwylaw y cludasant y rhan fwyaf o'r cerryg hyn yng nghyd.
Y mae olion ugeiniau o dai tufewn i'r "Caer," ac amryw tuallan iddo hefyd, fel y gallesid galw y "Garn" mewn rhyw ystyr yn dref, os nad oedd yn y cyfnod y cyfeiriwn ato, i gryn fesur, yn cael ei hystyried felly. Gwahaniaetha yr adeiladau bychain hyn yn fawr oddiwrth yr eiddom ni, gan nad pedair