Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

onglog, ond crwn ydynt o ran eu ffurf, fel y gellir casglu yn hawdd oddiwrth hen furiau eu seiliau. Er mwyn rhoddi rhyw amgyffred i'r anadnabyddus, nis gallwn efallai eu desgrifio yn well na dywedyd eu bod o ran cynllun ddim yn anhebyg i'r llythyren O, yr hyn sydd yn ein harwain i feddwl eu bod wedi mabwysiadu y drefn gylchol (round) ac nid y bedeirael (square), oddiwrth yr hên ddull cyntefig o adeiladu, sef gosod polion yn y ddaear, rhywbeth yn debyg i gylch (circle), yna, eu plethu a gwiail, ac wedi gorphen, eu gorchuddio neu eu dwbio â llaid, yr hwn, ar ol sychu, fuasai yn gwneuthur y lloches yn fwy cysgodol. Mewn gwirionedd, yr ydym wedi cael y gair adeiladu oddiwrth y dull hwn yn "gyfan gwbl." Gwir fod y tai yma wedi cael eu gwneuthur o gerryg, etto, y mae y cynllun yr un, os yw y defnydd yn wahanol, yr hyn sydd yn ddolen (link) yn cydio y diweddar a'r hén, ac yn myned ym mhell i brofi fod rhyw gyssylltiad rhwng yr oes hon a'r un oedd o'u blaen, os nad oeddynt eu plant. Gwelwn hwynt o hyd yn glynu wrth eu gilydd fel un teulu, ond nid yn ddiofn, mwy na'u tadau.

Tua chanol yr Amddiffynfa, nid ym mhell o'i chopa, yr ydym yn dyfod ar draws craig, yr hon sydd gymhariaethol wastad, ac wedi ei chochi gan dân. Ar un olwg gallesid meddwl mai hon oedd Aelwyd Fawr y gwersyll, lle y byddai y coginwyr wrth eu bodd yn darparu eu gwleddoedd. Ond gall taw yma y cynneuid y goelcerth rybuddiol yn arwydd fod y gelyn yn agoshâu, ac nad oedd amser i'w golli iddynt hwy a'u hanifeiliaid i ffoi dan nodded y "Caerau;" neu, efallai mai yma yn nyfnder eu paganiaeth y llosgent "Dân Bel" ar allor dal "y graig gre" i "Houl," goleuad eu dydd; neu ynte, dichon fod yr hên frawddeg ganlynol yn cael ei gwirio yn sefydliad y "Garn," Lucyfer yw ow hanow, pensevic yn nêf omma; ow howethè ew tanow=Lucifer yw fy enw, pendefig y nef yma, fy nghymdeithion yw tânau.