Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amddiffynfa Gymreig Carn Madryn.

ER mwyn bod mor gynnwysfawr ag y gallwn, ni a gyfeiriwn ein darllenydd yng nghylch yr oll ydym yn fwriadu ei egluro yng nglŷn â'r gair "Carn," at yr hyn a ddywedwyd am "Garn" Bodfuan. Y peth cyntaf yr ymdriniwn âg ef yma ydyw yr enw "Madryn." Yn y cofnodion bywgraphyddol, cawn, i ddechreu, fod "Madryn" yn enw ar Santes oedd yn byw yn y bummed ganrif, sef merch Gwrthefyr Fendigaid, a gwraig Ynyr Gwent. Enw ei llawforwyn oedd Anhun, ac iddi hi y priodolir sylfaeniad Eglwys Trawsfynydd ym Meirionydd. Ond methwn gael un cyssylltiad rhwng y Santes hon a'r "Garn" dan sylw. I ddangos tarddiad yr enw yn iawn, rhaid i ni fyned i'r ffynhonell i chwilio am dano, sef hên iaith gyntefig ein gwlad, a gwelwn ef yn amlwg yn y gair "madadh-ruadh"=cicoch=llwynog. Ceidw y Gymraeg yr enw o hyd yn y gair "madyn," wrth yr hwn y golygir "llwynog," er mai "ci," yn llythyrenol, yw "madyn." Pan y mae y beirdd yn barddoni ar y "llwynog," byddant yn dueddol o'i alw "madyn." Paham, nis gwn, os nad am ddieithrwch y gair. Bid à fo am hyn o gywreinrwydd, canfyddwn yn eglur nad oes ond "madadh"=ci, wedi ei gadw yn "madyn." Trwy ddiogi ymadrodd, y mae "ruadh"=rhudd= coch, yr hyn sydd yn gwahaniaethu y "ci" hwn oddiwrth ryw gi arall, wedi ei gwbl adael allan. Ond os edrychwn am ddiwyg hynach o'r gair yn ein hiaith, cawn yr ysgrifenir ef "madryn," a hwn yw y gair goreu, o'r ddau, am "lwynog;" oblegyd y mae yr "r" yn "ruadh"=rhudd=coch, heb ei cholli yn "madryn;" ac os dosranwn ef, ceir ynddo y ddau wreiddyn, "mad-ry-n"="ci coch." Terfyniad Cymreig ydyw yr "-n," yn golygu un. Gŵyr y cymmydogion yn rhŷ dda, fod y "Garn" hon wedi bod, ac etto yn bod,