Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn lloches i'r llwynog (y "ci coch"), ac nad oes raid amheu, na rhyfeddu, iddi gael ei henw oddiwrth y creadur hwn.

Er fod y gair "Madryn" o ran ei darddiad a'i nodwedd ieithyddol yn profi cyssylltiad Goidelaidd â'r lle, yr hyn ni ddylid myned heibio iddo heb ei ystyried, etto, gan nad oes genym ond megys "adgof uwch anghof" o'r ffaith, gadawer i ni ymgymmeryd â rhoddi ychydig o neillduolion y fangre fel hên Amddiffynffa Gymreig, gan mai hyn yn benaf sydd genym mewn golwg yn bresennol.

Bu Lleyn unwaith ym meddiant Rhodri a Maelgwn, meibion Owain Gwynedd, a'r "Garn" hon oedd eu castell. Ac os bu cuddfeydd peryglus ei huchelderau gynt yn fanteisiol i'r llwynog i chwareu ei gampau, dangos ei gyfrwysdra, pendroni ei erlynwyr, a'u gyru i'r pruddglwyf ac anobaith, dro ar ol tro, wrth ymboeni gyda'r drafferth anorphen o geisio dal y cadnaw, hawdd iawn i ni ddyfalu heb chwilio am ragor o esboniad, pa beth oedd y rheswm gan Rhodri a'i frawd tros wneuthur eu gwersyllfa mewn lle mor ramantus. Y mae un ochr o'r clogwyn yn beryglus o serth, ac yn cael ei gorchuddio a cherryg, y rhai oeddynt yn siarad wrth y gelyn, y gormesydd, a'r troseddwr, mai tynged pob dihiryn rhyfygus o'r fath yma oedd "llabyddio â meini," os byth yr anturient i ymyraeth â hawliau y preswylwyr. Nid yw yr ochr wrthwynebol mor anhygyrch, ac am hyny yn addasach i'r fyddin osod eu tai hirgul, hirgrwn, a chrwn, ar y lawnt a'r llechwedd, ac i adeiladu "Caer" uchel o'u hamgylch, olion pa rai sydd i'w gweled yn amlwg y dydd heddyw. Yn uchelgaer nèn y "Garn" yr oedd y tywysogion yn byw, ac yma yr oedd y brenhin o'u blaen, yn ymgynghori gyda'r milwyr a'r cadfridogion, ac yn anfon allan eu gorchymynion trwy yr holl Wersyll. Eu Palas hwy oedd Tŵr Anian. Er fod cawell saethau a bwa William wedi arllwys yn gawodydd ar ben ei elynion