Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ym maes Hastings, a'i arswyd fel "Concwerwr" wedi berwi holl Anglia, yr oeddynt hwy yn dawel yn eu Tŵr, a'u tad Owain wedi gwasgaru ei holl ofnau i'r pedwar gwynt, a'i gladdu wed'yn yn hên Eglwys Gadeiriol Bangor. Un o brif weddillion coffadwriaethol ysmotyn y tywysogion yn eu diogelfa tua uchelder y "Garn," ydyw "Bwrdd-y-Brenhin." Clyw som lawer o sôn am "Ford Gron Arthur," ac am y cydraddoldeb bytholedig a berthynai i bawb a gyfranogent o'r trugareddau fyddent wedi cael eu harlwyo arni, ac onibai y cyfartaledd breiniol oedd yn nodweddu hawl y rhai oedd yn neshâu at y "Ford Gron," y mae yn beth mwy na thebygol genym na fuasai hanesyddiaeth erioed wedi gwneuthur mwy o sylw o honi hi na rhyw ddodrefnyn arall o'i ystafell. Ond y peth penaf yng ngwasanaeth Traddodiad a fu yn achlysur i fytholi "Bwrdd-y-Brenhin" yng nglŷn a'r Amddiffynfa hon oedd ei ddefnydd. Allorau y Derwydd oeddynt o gerryg. Gorsedd y Gaelwys ydoedd y "Maen Tynged" (Lia Fail) yn Scone, ac ary "Garreg" hon y coronent eu brenhinoedd. Dangosai y defnydd yr hawl fythbarhäol oedd yn nodweddu rhagorfraint ddilwgr y cyfrwng. Felly yn y fan hon. Defnydd "Bwrdd-y-Brenhin" ydyw carreg, sef y defnydd mwyaf arwyddocäol yn yr "Allor" a'r "Llys," oblegyd fel yr oedd y maen yn aros yn ei berffeithrwydd a'i gadernid er gwaethaf ymosodiadau ystormydd a chorwyntoedd y ddaear, felly yr oedd dymuniad ein Cenedl hyd y diwedd am barhâd ei Brenhin; ac yn wir ni roddodd ei chlêdd yn y wain, ac ni ddistawodd erioed waedd ei chalon nes y cafodd ei "Thywysog Cymru." Sonir wrthym hefyd gan Draddodiad am "aur lawer" wedi ei gladdu yn ofalus dan y "Bwrdd." Gall hyn fod yn wirionedd llythyrenol am y trysor sydd yn guddiedig, fel y gwelwn yn eglur am faen y "ford" sydd yn yr amlwg; ond y mae lle i gredu fod ei ystyr gan ddefnydd y trysor y tufewn i'r llen, fel y mae gan