Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddefnydd y "Bwrdd" ar wyneb y maes, ag sydd ar unwaith yn selio pwysigrwydd y sefydliad. Pan yr oedd y wlad yn ymddiried ei heiddo i gyssegrfeydd y Mynachlogydd, y mae yn rhaid fod ganddi grêd yn nilysrwydd eu cadwraeth yn yr amseroedd terfysglyd. Pan yr oeddynt yn clywed am Loegr fel nythle yspeilwyr a charnladron, a'i bod mor sydyn wedi myned dan fath gyfnewidiad dan nawdd y "Concwerwr," fel y gallasai trefniedydd yr ariandy deithio i bob congl o honi gyda llogell gyflawn o aur yn berffaith ddiberygl, anhawdd meddwl nad oedd Cymru yn dechreu teimlo mwy nag erioed o werth yn rhinwedd swydd ei "Brenhin." Os nad oeddynt yn rhoddi yn weithredol eu harian a'u haur dan ei ofal yn amser chwildroadau, diau nad ystyrient eu heiddo yn ddiogel ond dan nawdd ei deyrnwialen. Mewn geiriau eraill, yr oedd llwyddiant a diogelwch eu cyfoeth hwy yn drysoredig dan orchudd gallu eu Llywiawdwr, fel yr aur o dan y "Bwrdd."

Hawdd tybied y cyfaneddid ochrau a gwaelod y "Garn" gan bobl y wlad a'u hanifeiliaid yn amser gwrthryfel, dan wyliadwriaeth ac amddiffyniad y fyddin gref a'r gwroniaid dewrion oeddynt yn cartrefu yn uchelfeydd y "Frê."

Neppell o "Fwrdd-y-Brenhin" y mae Ffynhon ardderchog, mor loyw a llygad natur ei hun. Pur wag ydyw cartref heb "fwrdd," ond i'r hên bobl yn oes eu symlrwydd, gwacach fyth ydoedd cartref heb "ffynhon." Ac er fod yr esgair hon yn uchel, a'i fod yn rhyfeddod fod deddfau natur yn peru i'w dyfroedd redeg i fyny, a tharddu yn ystlys ei choryn, etto, ym mhrif hynodion daioni ei gofalon aneirif, nid yw Rhagluniaeth wedi anghofio am danynt. Gwelwn yn yr Amddiffynfa hon lawer iawn o waith dyn, ond gwaith Duw yw y Ffynhon. Ac er fod gwaith dyn wedi syrthio i lawr, a chael ei chwalu, y mae ei waith Ef yn aros etto. Ac os cauodd angau lygaid