y gair fel hyn, trê, trev, treubh, treabh, treb, yr hwn a ddilynwn i "tribus" y Lladinwr, edmygydd y "Tri Fu," sef y "Tri" cyntaf a roddasant eu traed ar dir Rhufain, oddiwrth ba rai yr hanai yr holl lwythau urddasol, ac y perthynai "Awdurdod." Ac yn gyssylltiedig a hyn oll, nid têg fyddai i ni beidio crybwyll ein bod yn gweled mawr debygolrwydd rhwng "Curiae" y Rhufeiniaid â'r gair "Ceiri" yn enw yr Amddiffynfa hon. "Curia" Roma oedd ei Senedd, lle y cydymgynghorai ei "Harglwyddi." Ac wrth edrych ar ganol pedronglog craidd y Wersyllfa, dygir ar unwaith adgof i'n meddwl o'r "Praetorium," neu "Gad-lys" y fyddin Rufeinig. Heblaw hyn, ffurf "Cawr" yn ein hên iaith oedd "Cur," "Curaidh"=" warrior," "hero," "champion," fel y gwelir etto yn y Gaelaeg. Ond cyn myned ym mhellach, gadawer i ni gasglu rhywbeth oddiwrth yr hyn a ddywedwyd yn barod.
Arweinia golygfa ramantus y carneddau cerryg yma rai yn ôl i'r "Faen-Oes" (Stone Age), pan yr oeddid yn gwneuthur cymmaint o ddefnydd o'r cerryg, cyn darganfod yr haiarn, a thybiant dan effeithiau yr olygfa fod yr Amddiffynfa wedi cael ei hadeiladu cyn "Oes-yr-Haiarn" (Iron Age), yr hyn, yn ol rheolau ymresymiad, sydd yn ein harwain i feddwl y buasid yn adeiladu "Trer Ceiri" o haiarn, pe buasai wedi cael ei gwneyd yn "Oes-yr-Haiarn;" a phan y dangosir Amddiffynfa yn rhywle wedi cael ei gwneuthur o haiarn, bydd ganddynt efallai sail i sefyll, ond fel y mae, nid oes. Mwy na hyn, gan fod gan iaith, neu yn hytrach eiriau mewn iaith, eu cyfnodau a'u hanesiaeth, os amcenir at fanylrwydd, eglurdeb, a chywirdeb, ceir fod gan enw y lle gryn lawer i'w wneyd tuag at benderfynu y pwnc hwn. Fel y maentumiwyd yn barod wrth osod i lawr seiliau ein hymchwiliad, y mae yr hên enw "Dun" am "Amddiffynfa" yn oesoedd boreuaf yr adeilweithiau hyn, wedi newid yma yn "Trêf," ac yn