dangos nodwedd ddiweddarach o lawer; ac ar y llaw arall y mae yn angenrheidiol i ni gofio nad yw y nodweddiad hwn ychwaith yn cydffurfio yn hollol yn ei holl neillduolion â'r ystyr a briodolir i'r gair “Trêf" yn ein dyddiau ni, yr hyn sydd yn ein harwain yn naturiol i osod ei gwneuthuriad, o ran amser, rhwng yr hên â'r diweddar. Gyda sicrwydd y gallwn ddywedyd, ei bod yn rhy anhawdd gosod y profion a'r ffeithiau hyn o'r neilldu, heb eu derbyn, os ydym am wneuthur cyfiawnder â'r gwaith fel cyfanswm. I gadarnhau hyn, y mae cynllun a gwneuthuriad y celloedd a'r cyfan yma yn hollol yr un fath âg eiddo Amddiffynfa Carn Madryn, yr hon oedd yn ei gogoniant tua diwedd y ddeuddegfed ganrif. Ond yn wrthwynebol i'r golygiad hwn, gellir dadleu fod y Caer a'r tai wedi cael eu gwneyd ar gopa y tŵyn, er mwyn diogelu y trigolion rhag anifeiliaid gwylltion y goedwig oedd y pryd hwnw yn gorchuddio y mynyddoedd hyn a'r Wyddfa; ac felly, eu bod yn dyddio can belled yn ôl â'r "Faen-Oes" (Stone Age); ond rhý anhawdd meddwl y buasid yn codi mur tuag un troedfedd ar bymtheg o led rhag y llwynog a'r blaidd. Heblaw hyn, yr oedd y Celtiaid yn yr oesoedd boreuaf yn preswylio mewn coed, a'r Cynwys o'u blaen yn byw yn y dyffrynoedd. Ac os adeiledid y mur rhag y bwystfilod, pa ddaioni oedd y rhag-fur o'i flaen? Yn lle gwanhau, gwelir fod y pethau hyn o hyd yn cryfhâu ein gosodiad. Efallai mai y prif beth ag y teimlir ychydig anhawsder yn ei gylch, ydyw ffurf gron rhai o'r celloedd bychain yma. Y mae y dull hwn o adeiladu yn hên iawn, ac wedi ei gymmeryd, mêdd rhai, oddiwrth gynllun yr aderyn yn gwneyd ei nyth-felly, heb ffenestr yn yr un o honynt. Ond nid yw hyn drachefn yn profi dim mwy nag olyniaeth ; oblegid cawn y cynllun hwn i fesur mwy neu lai, yn cael ei fabwysiadu hyd oresgyniad y "Concwerwr," gyda'r hwn y daeth i fewn y gelfyddyd gain o adeiladu, er ei fod yn fwy cyffredinol ym mhlith yr hynafiaid nâ'u disgynyddion. Etto, yn yr olygfa sydd o'n blaen, gwahaniaetha o'r crwn i'r hirgrwn, a'r pedronglog (square), yr hyn sydd yn brawf arall fod y gwaith fel cyfangorph yn perthyn i'r cyfnod y cyfeiriasom ato.
Drachefn, rhaid fod y pedwar can mlynedd y buodd y Rhufeiniaid yn teyrnasu ar ein gwlad wedi dylanwadu yn fawr ar iaith, celfyddyd, ac arferion ei thrigolion. Am y rheswm hwn yr oeddym yn dangos y berthynas sydd rhwng “Tref" à "tribus,” ac efallai “Ceiri” a “Curiae,” yn ogystal â'r tebygolrwydd a welwn rhwng "canol" yr Amddiffynfa â'r "Praetorium" yng Ngwersyll milwyr Rhufain. Beth am "Castra Romana" Cæsar yn Segontium (Caernarfon), yr hon oedd yn gorchuddio tua chwech erw o dir? Yma y bu Eryr "signa militaria" Ymherawdwr yr holl fyd gwareiddiedig yn cael ei chwifio gan Ostorius Scapula, nes yr oedd ei ddylanwad yn treiddio trwy holl Eryri. Yma y clywyd llais Suetonius Paulinus yn diaspedain holl gymoedd a chreigiau Snowdonia. Ac yma hefyd y dangoswyd disgyblaeth, medr, a gallu byddin grêf Antoninus. Gan hyny, peidier a synu dim os ydym yn gweled ychydig o efelychiadau oddiwrth y Gwersyll Rhufeinig yn argraphedig ar Amddiffynfa "Tre'r Ceiri." Tystiolaeth pob gwlad a chenedl yw fod eu plant yn dysgu oddiwrth eu tadau, a'r disgyblion oddiwrth eu hathrawon.
Canfyddwn fod rhai wedi myned mor bell â chyfieithu "Cangorum civitas" yr awduron classurol yn "Tre'r Ceiri." Rhaid cyfaddef fod y golygiad hwn, ar ryw olwg, yn un tra chywrain. Ond gan nad yw iaith wladwriaethol y Lladinwr, na hanes y "Cangi" eu hun, yn ffafrio cyfieithiad o'r natur yma, tueddir ni i'w roddi o'r neilldu; oblegyd nid yw "civitas" uchod ddim ond yn dynodi "treftadaeth" neu "diriogaeth" y bobl hyn, yn wrthgyferbyniol i diroedd (estates) y gwahanol lwythau eraill oeddynt yn perchenogi'r wlad; a dengys y Dudlenas Hynafiaethol fod eu "civitas" hwy yn cyrhaedd o Benrhyn Lleyn i Fôn, ac o Fôn i Fanaw; ac wrth eu galwedigaeth bugeiliaid oeddynt, ac nid dinasyddion. Felly, yng ngwyneb yr anghysonderau hyn, methwn weled fod "Trer Ceiri" yn cyfatteb i'r “Cangorum civitas."
Mesura yr Amddiffynfa tua 910 troedfedd o'r Dwyrain i'r Gorllewin, a thua 337 o'r Gogledd i'r Dê. Rhifasom fwy na dau cant o dai tufewn i'r Caer. Y mae yr ochr fwyaf hygyrch yn cael ei hamddiffyn gan dri o furiau cedyrn. Yr isaf sydd yn dra adfeiliedig ac amherffaith, ond y mae y nesaf ato yn gyfanach, ac ynddo ef y mae y brif fynedfa. Canfyddir fod y mur hwn, mewn un lle, yn pwyntio at y Caer sydd wedi ei adeiladu oddiamgylch copa y bryn; fe una yr ail fur â'r cyntaf, yr hwn a red i bwynt, troa yn ol, ac ymuna a'r uchaf, lle y mae y bryn yn serth ac anhygyrch. Y tufewn i'r Caer y mae dwy rês o gelloedd wedi cael eu gwneyd gylch-ogylch, tra y mae y canol wedi cael ei gadw yn bedronglog, ac heb dai. Hefyd, yr oedd y llecyn hwn wedi cael ei amgâu â cherryg; yn y fan hon yr oedd eu cynghorfa. Fry, o gonglau ei Dŵr, gallasai y Gwyliedydd weled Môn, Ar-fôn, Meirion, Eifionydd, Lleyn, Môr-yWerydd (Mare Vergivium), a rhoddi hysbysrwydd i'r Gwersyll am bellder neu agosrwydd y gelyn. Yn ymyl y porth, yn nhewdrwch mur y Caer, yr ochr allanol, y mae cell fechan yr hwn oedd yn gwylio y fynedfa liw nôs, ac yn sylwi pa beth, a phwy fyddai yn dyfod i fewn, ac yn myned allan liw dydd. Diau mai oddiwrth yr yr arferiad hwn yn yr hên Amddiffynfeydd y tarddodd y ddôr-gell (lodge) sydd mor fynych i'w gweled gerllaw y pyrth ydynt yn arwain i balasau ein boneddigion mewn oesoedd diweddarach.
Hefyd, gan fod y gair "Tref" yn y fan hon yn golygu "Amddiffynfa," fel y gair "Dinas" yn ei ystyr cyntefig, arweinir ein meddwl at adran arall mewn perthynas i Hynafiaeth y lle hwn, na fyddai, efallai, yn deg myned heibio i'r cyfryw, heb wneuthur
sylw o'r peth. Nid awn i son am gyfundrefn "Patriarchiaid " yr hên fyd, "Patria Potestas" gwlad Rhufain, na "Phatronomiaeth" tir Groeg, yn eu dylanwadau mewn awdurdod, hawl, gweinyddiaeth, a gwareiddiad, er y dichon y buasem yn gweled adlewyrchiad o'r un gwirionedd yn y pethau hyn, eithr yn hytrach, ni a osodwn i lawr neillduolion y ddirnadaeth fel yr ymddadblygant yn yr enw mewn cyssylltiad â'n cenedl ein hun. Er cymmaint a barddua Julius Cæsar ac awduron eraill ar ein cyndadau, yr oedd ganddynt eu teulu, eu llinach, a'u llwyth. Yn yr ystyr yma yn unig y gallwn edrych ar eu holl weithrediadau a'u nodweddion. Oddiyma y tarddodd "Treubh" eu "Gwehelyth," "Treabh" eu "Troi," "Trevas" eu "Trefaes," ac "Aitreabh" eu "Cartref." Yma yr oedd "Gourchemenn" eu "Gorchymyn," a "Galloud" eu "Gallu." Mewn cyd-ddealltwriaeth a chyd-fyw fel un teulu felly yr oedd eu "Dyowgelva" hwy, yr hyn sydd yn dangos yn amlwg mai yr hyn a olygid yn yr hên amseroedd wrth "Drefi" yn ein gwlad oedd "Amddiffynfeydd," neu orsafoedd milwrol ein cenedl, ar bwys pa rai yr oedd ei bywyd a'i ffyniant gwladwriaethol yn ymddibynu. Trefniad tra diweddar mewn hanesyddiaeth oedd gwneuthur y "Drêf" yn ganolbwynt masnachol. Amlygir hyn yn ddigon eglur i ni yn "Tre'r Ceiri."
Ond, i fyned ym mlaen gyda Hynafiaeth yr Amddiffynfa hon, angenrheidiol ydyw i ni edrych arni etto mewn cyssylltiad â'r amseroedd terfysglyd y buy rhan yma o Wynedd, hyd yr awr olaf, yn dal ei chleddyf daufiniog i fyny dros annibyniaeth Cymru yn erbyn ymosodiadau hirbarhäol y Sacsoniaid. Yma, yng nghysgod Snowdonia, yr oedd cadernid byddinoedd Gwyllt Walia; ac ystyrir yr Amddiffynfa hon gan ddysgedigion y fwyaf ysblenydd yn yr holl wlad fel y maentumiwyd yn barod. Yma yr oedd llygaid y dewrion yn gwylio pan y cyfodid Clawdd Offa, ac y talai ei chadfridogion ufudd-dod i gyfreithiau "Hywel Dda." Yma yr oedd dychryn yn addfedu tuag at barodrwydd pan y syrthiodd Rhys ap Tewdwr. Dilynid symmudiadau y Barwniaid, yng nghyda'u hymdrechion a'u buddugoliaethau yn Lloegr, o'r dechreu i'r diwedd, gyda'r craffder a'r manylrwydd mwyaf, tra yr ymddadebrai dyngarwyr a gwladgarwyr "Tre'r Ceiri" i siarad eu rhesymeg ar briodoleddau cyfiawnder mewn efelychiad. Gwyddai milwyr y Wersyllfa hon yn rhŷ dda am ymosodiadau y brenhin loan pan y syrthiodd i faglau troellog hên gymoedd y Wyddfa. Diamheu fod cynnrychiolwyr oddiyma yng Nghyngor Mawr Aber, gerllaw Bangor, pan yr anfonwyd at Frenhin Lloegria, "fod eu hawliau wedi aros yn ddiddadl oddiar dyddiau Brutus, ac na roddent iddo led troed o Eryri." Yma yr oedd lloches a chanolbwynt cadernid "Llewelyn ein llyw olaf." Cenfigenai brenhinoedd Anglia wrth y tywysog yn ei gestyll bogynog, fel arglwydd Eryri ("the lord of Snowdon"), a'r mynyddoedd yn gaerau o'i amgylch. Oddiyma yr äi allan i sicrhau ei derfynau, weithiau i gyfeiriad Caerlleon, bryd arall draw hyd lanau yr Hafren, tra yr oedd y Pab yn cyhoeddi melltithion ar ei ben yn Rhufain. Yma eilwaith yr ymorchestai Dafydd ei frawd, pan yr oedd ei ben ef wedi cael ei osod ar bicell haiarn, i fyny ar big uwchaf Tŵr Gwyn, Llundain. Ond wedi gwrthsefyll brâd y llêng, a brwydrau dirifedi oes ar ol oes, dacw "Tre'r Ceiri" o'r diwedd yn cael ei chwalu, a Iorwerth y Cyntaf yn chwifio baneri buddugoliaeth gerllaw, gan gerdded mewn gorymdaith lawen i lawr tua gwastadedd Nefyn, lle yr arlwyodd ei "Ford Gron" mewn efelychiad i Arthur Gawr, ac y gwnaeth wledd ardderchog, gyda gorfoledd annhraethadwy am ei fod wedi treiddio yn fuddugoliaethus trwy gadernid cryfaf Gwyllt Walia. Ac i ychwanegu melusder y danteithion, a difyru yr holl wyddfodolion, efe a wnaeth Gâd-ymgyrch (tournament), neu fath o ffug-frwydr (mock-fight), yn yr hon y cymmerid rhan gan brif