Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

farchogion Lloegr, ac y dangosodd Garan Hir ("Longshanks") fedrusrwydd anarferol gydag arfau rhyfel, er mwyn creu dychryn ac arswyd bythol yng nghalonau hên filwyr bydenwog prif gastell uchelder Lleyn ac Eryri.

Gorphwysa Llewelyn yn fud yn ei fêdd, A dethlir ei gwymp gan ei elyn â gwlêdd!

Cadernid lewygodd, A'r "Hirlas" ddistawodd.

Vr Eifl.

☑ YMA enw sydd wedi achosi llawer iawn o ddyryswch i lenorion. Y Seison a'i hysgrifena "Rivals," fel pe byddai y tair “foel" yn codi eu penau i fyny yn yr awyr, ac mewn dadl â'u gilydd pa un yw y dalaf. Ond hawdd gweled mai dynwarediad o sŵn y gair Cymraeg mewn iaith estronol ydyw hyn. Diau y caiff y gwall ei gywiro can gynted ag y daw pethau o'r fath yma i well trefn. Deuwn etto yn ein hên iaith ar draws geiriau fel hyn, aibhleoga, aibhleog, eibhleog, eibhling, aoibhle, oibhel, aibhle, eibhle, y rhai, (gan fod bhf, neu v) ydynt oll, o ran swn a synwyr, fel y gair diweddar ufel, yn golygu tân. Byddai milwyr "Tre'r Ceiri," pan welent luoedd y gelyn yn dynesu, yn cynneu coelcerth ar ben y mynyddoedd hyn, er mwyn i'r brodorion ymbaratoi i ryfel, ac fe ellir meddwl yn naturiol fod y “bànau" uchod wedi cael ei henw oddiwrth " Yr Ufel," neu y tân yma. Ond y mae "Yr Eibhle," ignis in theoria=ufel, yn y rhif unigol, tra y mae " Yr Eiff" yn ei ddiwyg Cymreig ar y llaw arall yn y rhif luosog, yr hyn sydd yn myned ar unwaith yn erbyn y deongliad hwn. Dengys natur iaith, a phethau, mai y rhif luosog o "Yr Afl" yw " Yr Eifl"=un, gaft; lluaws,

66

geift. Ac mewn perthynas hynod o agos i'r ffaith hon arwyddocäd gabhla, (ael, heb bh-f-v yn y canol) gabhlog ydyw forch, oddiwrth yr hyn y tarddodd "The Forks of the Snowdonian Range," am fod llygaid rhywrai yn gweled penau y tair colfa yn debyg i ffyrch. Ond waeth heb glytio dychymygion, rhaid i'r gwirionedd gael rhywbeth gwell nag ystwffwl a manus yng ngwyneb fath ystorfa o wybodaeth ag sydd yng nglŷn â Hynafiaeth y fangre nodedig hon. Gwir yw y tardda "Gaft" o gabhlagwaywffon, ac y gallasai y mynyddoedd hyn gael yr enw oddiwrth wŷr gwaywffyn hên Amddiffynfa "Tre'r Ceiri," gan y dywed Giraldus Cambrensis fod gwroniaid y parthau yma yn hynod am eu picellau hirion; ond rhaid mai ystyr ail-raddol ydyw enw yr offeryn, wedi tarddu oddiwrth y weithred o afaelyd ynddo; yn ogystal a'r daioni, neu'r hawl oedd yn dyfod i feddiant y perchenog trwy yr "Afl." Deuwn yma ar draws "gabhail" y Gwyddel, "giebel" yr Ellmyn, “ cable” y Sais, "Kabbel" yr Iuddew, neu y Caldewr, " gabelle" y Ffrancwr, "gafael" y Cymro, a "gavel-kind," neu "gafael-cenedl" cyfreithiau y deyrnas. Sonia Selden am "gavel-cester," ac fe ddarllenwn yn neddfau Lloegr am "gavel-corn," "gavel-malt," "outgavel," a "gavel-fodder," fel y gallwn yn briodol ystyried fod y gair Cymraeg wedi llithro i fewn, a myned yn allu yn iaith gyfreithiol y Seison. Yr oedd o'r fath ddefnydd cenedlaethol, ac mor adnabyddus felly yn y byd gwareiddiedig, fel y defnyddir ef hefyd yn y ffurf "gaveletum" yn yr iaith Ladin. Yn golofn goffadwriaethol o fywyd Cymreig mewn meddiant gynt o gyfoeth y Brif Ddinas ei hun, sonir am ragorfraint mewn hên gyfreithiau i drigolion Llundain a elwir “gafael-cenedl," neu fel yr ysgrifenir ef ganddynt hwy, "gavel-kind," yr hyn sydd Gymraeg mewn iaith estronol, ac y maent o hyd yn cael ffafriaeth ar bwys yr hawl hon; ond druain o'r Cymry! nid "gafael" i'n " cenedl" ein hunain mo honi mwyach, ond "gaft" i "genedl" Hengist a Horsa. Pan yr oedd William y Concwerwr yn gwasgu ar bobl Kent am warogaeth, daethant ym mlaen ato fel un gwr gyda "gaflau" o goed, gan hawlio, er mai Seison oeddynt, eu “ gavel-kind" yng ngeiriau y cyndrigolion, sef y Cymry, ac yn unol â'r ddeddf oedd mor hên yn eu plith âg oes y ddaear, hwy a'i cawsant yn ol eu dymuniad, ac y mae mewn grym iddynt hyd y dydd heddyw, yn ogystal âg yn Urchenfield, Swydd Henffordd, a manau eraill, ac fe ddywed Selden fod y ddeddf hon mewn arferiad trwy Brydain Fawr hyd y Gorchfygiad Normanaidd. Heb son mai "gaveller" yn iaith gyfreithiol y mwnwyr yw "gafaelwr," neu hawliwr y tir y mae y gloddfa ynddo, a "gavelling" yw cael yr "afael" o'i law ef i'w meddiant eu hunain, ni a ddeuwn yn nês at gnewullyn y mater. Gelwir pobl y cwmmwd hwn yn "Gaflogion," sef cewri yr "Aft"=y bicell hir, ac amddiffynwyr yr "afael," neu yr hawl “genedlaethol.” I'r dyben yma yr adeiladwyd "Tre'r Ceiri," "Tŵr Eiffel" yr uchelderau hyn. Oddiar yr un ffaith y tarddodd arwydd rhybuddiol yr "eibhle "=" ufel "= tân ar y “bànau." Er mwyn yr "afael" hon yr ymorchestodd Iorwerth-y-Cyntaf gymmaint i gymmeryd meddiant o orsaf filwrol "Yr Eiff." A rhag ofn y byddai yspeiliad beiddgar Iorwerth o'r " Avelkind" yn felldith i lwyddiant yr Orsedd y rhoddodd Harri-yr-Wythfed yr hawl yn ol i "Genedl" Cymry. Felly, rheda elfen ieithyddol "Yr Eift" drwy yr "aibhle," yr "eibhle," yr "eabhall," yr "aoibhle," yr "oibhel," yr "eibhlea," yr "eimheal," yr "ealbhan," yr "abhlog," yr "abhla," yr "abhail," yr "avel," a'r "afael" yn yr ieithoedd Prydeinig, ac efallai mai "asgwrn yr holl gynhen" oedd yr " Afael."

y

Aant Gwrtheyrn.*

☑ YWEDIR wrthym mai yma y diangodd Vortigern rhag llid a dialedd ei ddeiliaid, ac y "dinystriwyd ef a'i gastell gan fellt!" Yn ei amser ef y digwyddodd "Brad y Cyllyll Hirion." Llawer iawn yw y dychymygion yng nghylch diwedd y milwr hynod hwn. "Geoffrey of Monmouth" a ddywed iddo grwydro llawer, a dyfod yn y diwedd i "Fynydd Erir." Nennius a grybwylla iddo ddyfod i dalaeth a elwir "Guenet"=Gwynedd, ac ymsefydlu yn "Herēmus"=Eryri; ond anghytuna'r ddau yng nghylch y lle y bu farw. Oddiwrth y chwedlau am dano, gallwn gasglu iddo gael ei erlid o Ddwyreinbarth Deheuol Anglia, gan elynion cartrefol a thramor, ac yn gymmaint ag i'r Mynachod ei golli, a methu gwybod o gwbl beth ddaeth o hono, rhai o honynt, yn ol eu harfer, a ddychymygasant i'r ddaear o dano ei lyncu, ac eraill, i'r nefoedd oddiuchod ei "ddinystrio ef a'i gastell a mellt." Un a ddywed iddo farw yn "Genoreu, gwlad Hergin, ar lan afon Gania, ym mynydd Cloarius;" arall a bortreada iddo ddiwedd echrydus dan lid Duw yn "Dimetae= Dyfed, yng Nghair Guothergirn, ar lan afon Tywy;" yr hyn sydd yn brawf eglur nad oedd gan "haneswyr yr hên oesau" ddim ond ceisio dyfalu am achlysur ei farwolaeth, a llecyn ei ddyddiau olaf. Beth bynag, fel y rhoddir ni ar ddeall gan yr awdurdodau goreu, dyn pechadurus i'r eithaf oedd Gwrtheyrn, ac ni allasai encilio i le mwy ofnadwy unig a neillduedig oddiwrth y byd. Saif yng nghongl adeiniog mynydd tra uchel, a'r ddwy ochr yn cael eu cau i fewn gan ddau lechwedd carregog, wyneb pa rai sydd yn cael eu britho gydag ychydig eithin a grug; y drydedd ochr a ymddengys o'n blaen fel rhyw glogwyn du, gyda choryn uwchaf yr Eifl yn ymddyrchafu i'r entrych gerllaw.

  • I lawr yn y cwm bwäog hwn, cyferbyn a "Tŷ Canol," ar lan yr afonig risialog sydd yn rhedeg gerllaw, y mae seiliau hên furiau gweddilledig Eglwys fechan, yr hon sydd yn mesur tua dwy-lath-ar-bymtheg o hyd, ac wyth lath o led. Ar ol gwneuthur archwiliad, cawn fod y ganghell tua llathen yn gulach na chorph (nave) yr Eglwys, ac yn ol ein cylchiadyr (compass), yr oedd yn cyfeirio i'r Dwyrain bron yn berffaith. O'i hamgylch yr oedd Mynwent, tua dwy-lath-a-deugain o hyd, a phedair-llath-ar-ddeg-ar-ugain o led, yn cael ei diogelu gan glawdd hyd yn ddiweddar, ac yr ydys yn cofio "carreg fedd yn yr ochr Orllewinol, yr hon (fel y mae yn gywilydd dywedyd), sydd yn awr yn "garreg aelwyd" mewn tŷ gerllaw, ac y mae yr ychydig lythyrenau oedd arni wedi eu llwyr ddileu !

Uwchben y weilgi aflonydd yn ymyl, y mae bryn lled uchel, a naturiol yr olwg arno, ond fod ei gopa wedi ei gwastadhâu, a'r ochrau wedi eu nodi fel y dywed Pennant, âg wyth o asenau amlwg o'r top i'r gwaelod. Ar y tŵyn hwn yr oedd diogelfa* y

  • Mesura amddiffynfa, neu "Gastell Gwrtheyrn," fel y gelwir y talwrn, tua chant-ac-un-llath-a-deugain gylch-ogylch ar y trum, dwy-lath-ar-ugain ar draws un ffordd, a thua thair-llath-a-deugain ar draws ffordd arall, ac nid yw fawr llai na chàn llath o uchder. Dywedir wrthym fod pump o dai yng ngolwg y "Castell" yn yr hên amseroedd, i fyny yng nghonglau y creigiau a'r llechweddau talryniog, i'r gwylwyr (sentries) i warchod y gelyn, ac i ofalu am ddiogelwch Gwrtheyrn. Ymddengys na wyddai y cynhaneswyr o gwbl am ei gartref newydd, ond yn draddodiadol, oherwydd ei fod mewn lle mor ddirgelaidd. Pan yr oedd y brenin anrheithiedig hwn yn adeiladu ei "DIN"=Amddiffynfa, sonia "Geoffrey of Monmouth" a Nennius ei bod yn SODDI (sink) i'r ddaear !! ac i'r Teyrn + MAWR=VOR + Tigern alw yng nghyd ei ddewiniaid, i gael gwybod beth oedd i'w wneuthur ar y fath amgylchiad, pan yr attebasant fod yn rhaid iddo aberthu plentyn heb dad! Ac ar ol teithio a chwilio llawer cawsant afael ym Merlin, a dygasant ef at y brenin. Ond can gynted ag y deallodd y glaslanc eu bod am dywallt ei waed, agorodd lygaid Vordeyrn i weled y llynclyn îslaw, a mynegodd iddo am y "DDRAIG WEN" a'r "DDRAIG GOCH" oeddynt yn cysgu yno mewn dwy "garreg wâg,” medd un-mewn "dwy babell o fewn dau lestr," medd arall. Nid oes eisiau manylu