ffoadur crybwylledig. Hyd ddechreu y ganrif ddiweddaf, yr oedd carnedd, oddi fewn yn gerryg, ac oddi allan yn dywyrch, i'w gweled yma, a gelwid hi "Bêdd Gwrtheyrn." Yng ngwyneb holl amryfusedd ac anwybodaeth yr awduron pellenig, y mae Traddodiad yr ardal yn tystiolaethu mai yma y claddwyd ef. Erys ychydig amser yn ol, darfu i drigolion y plwyf gloddio i fewn i'r garnedd goffadwriaethol hon, a chawsant ynddi arch garreg, yn cynnwys esgyrn dyn tàl. Y mae y darganfyddiad pwysig hwn yn cadarnhau y Traddodiad, gan na welwyd esgyrn, na charnedd gyffelyb arall yn agos i'r fangre. Yr oedd ei bod hefyd wedi cael llonydd am tua phedwar cant ar ddêg o flynyddoedd yn myned ym mhell i brofi, fod rhywun urddasol wedi cael ei gladdu yn ofalus, mewn arch mor barhaus, a hono yn cael ei sicrhâu gan garnedd mor ysblenydd. Bu fyw a marw yn
ar y cwbl a ddywedir yma, ond dymunwn alw sylw at un ffaith neillduol, sef at y mynegiad yn yr awduron crybwylledig fod yr Amddiffynfa yn soddi. Wedi dringo i fyny, a chyrhaedd lawnt y "Castell," gwelsom ar unwaith fod yr hanner Orllewinol o hono wedi SUDDO tros ddwy lath i lawr, a gadael ceulan serth ac agenau agoredig ar linell y gwahaniad, yr hyn fel gwirionedd sydd yn ddigon o brawf i sicrhâu ysmotyn enciliad yr hên Deyrn fföedig, yn unol â'r hynodrwydd hwn sydd wedi cael ei groniclo mor fanwl, a'i liwio gymmaint gan rai o ysgrifenyddion yr hên oesau. Barnwn mai yr achos o'r ymsuddiad yma yw natur gleiog y tir llithredig ar gongl y talwrn llechweddog. Gwir fod "llynclyn" y môr wrth y godre, etto, nid ydym yn meddwl fod gan hyn ddim rhagor i wneyd â'r ffaith sydd dan sylw nâ'r Traddodiad yng nghylch y "Ddraig Wen" a'r "Ddraig Goch," a'r "tair brwydr" a fu rhyngddynt, yr hyn a ddeallwn am "frwydrau" ar wyneb Gwerydd Sant Sior gerllaw.
"Y Ddraig Goch ddyry gychwyn."
Dywedir fod "arian" a "thrysorau" Vordeyrn wedi cael eu claddu rhwng "tair carreg" yn y "Nant."
amser yr ystorm ofnadwy a ddaeth ar ein gwlad ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid.
E welodd "Frâd y Cyllyll Hirion," A'r gwaed yn rhedeg megys afon; Trywanai ofn fel saeth ei galon, A ffôdd rhag arswyd ei elynion.
Kant Gwiddan.
✔ MAE y Nant hon ym mhlwyf Llaniestyn, cyferbyn a Dinas, ar odre clogwyn Carn Madryn. Fe ddywedir fod "Gwiddan" wedi bod yn byw yn y lle hwn; ond ni ystyriwn y Traddodiad am dani yn werth ei ail-adrodd. Yr hyn yr ymgymmerwn âg ef yn bresennol ydyw y draws-egwyddor ei hun, yn ogystal âg ychydig fraslun o'r gwahanol gyssylltiadau. Diamheu fod yr enw anghyffredin hwn yn cyfeirio at amser pan yr oedd coel-grefydd yn uchel ei phen yn ein gwlad. Rhydd Goronwy Owain ddesgrifiad lled gynnwysfawr o'r cyfryw yn y llinellau canlynol :
"Cofio wna hoglanc iefanc,
Yn llwyd hyn a glybu'n llanc; Gelwais i'm cof, adgof oedd, Hanesion o hên oesoedd ; Ganfod o rai hergod hyll, Du annillyn dân ellyll;
Drychiolaeth ddugaeth, ddigorph,
Yng ngwyll yn dwyn canwyll corph; Amdo am ben hurgen hyll, Gorchudd hên benglog erchyll;
Tylwyth têg ar lawr cegin,
Yn llewa aml westfa win; Cael eu rhent ar y pentan, A llwyr glod o b'ai llawr glân; Canfod braisg widdan baisgoch, A chopa cawr a chap coch; Bwbach llwyd a marwydos, Wrth fedd yn niwedd y nôs.”
I ddangos cyffredinolrwydd lledaeniad dychymygion o'r fath yma, gadawer i ni olrhain y gair dan sylw mewn gwahanol ieithoedd : -Cymraeg, gwiddan; Cernywaeg, guit, guiden; Llydawaeg, gwedhan, gwez, gwezen; Gwyddelaeg, fiadh (f=gw, neu w); Gaelaeg, fiadhan; Manawaeg, feie; Lladinaeg, videns; Groeg, είδων (eidon); Sanskrit, VIDA; Ffrancaeg, guise; Gothaeg, vitan; Ellmynaeg, wissen; A. S., witan; Seisonaeg, wit; ac y mae yn deilwng o sylw mai enw "Pedwar Llyfr Cyssegredig" hynaf yr Hindw ydyw "Veda." Gwelwn, gan hyny, fod y gair "gwiddan," o ran elfen, yn rhedeg trwy ddim llai na phedair-arddeg, os nad pumtheg o ieithoedd a wyddom ni am danynt, heb son am eraill, yr hyn sydd, i ryw fesur, yn brawf o ledaeniad y chwedl, mewn rhyw ffurf neu gilydd, ym mhlith gwahanol genedloedd y byd.
Heb wneuthur ond crybwylliad am "Charasp" yr Hebrewr, "Oraclau Sibyl," a'r "Malleus Maleficorum," ni a awn ym mlaen i roddi byr ddesgrifiad o dynged y gwybodolion (?) hyn ar hyd a lled y ddaear. Ymddengys fod y byd, yn ol hanesiaeth, wedi blino cymmaint ar gastiau y "gwiddanod" fel y llosgwyd 500 o honynt yn Geneva, 1515. Dienyddiwyd tua 1000 yn fuan ar ol hyn yn Como. Felly drachefn yr erlynwyd hwynt, o 1627 i 1629, yn Wurtzburg, fel y dywedir ddarfod difa 100,000 o honynt yn Germania yn unig. Llosgwyd rhai yn Swiss, 1780. Ac nid oedd pethau fawr gwell yn Lloegr, fel y dengys cyfreithiau Harri VI., Harri VII. (1541), Elizabeth (1562), a Iago I. (1603.) Y mae rhif y rhai a roddwyd i farwolaeth yn y wlad hon yn unig tua 30,000! Lladdwyd llawer iawn o honynt yn America, 1692; a'r olaf a ddienyddiwyd yn Scotland (îs-coed-land), oedd yn y flwyddyn 1722.
Yn awr, gwelwn fod y “ Widdan" yn un o'r bodau mwyaf adnabyddus yng ngwahanol barthau y byd, yn yr oesoedd tywyll a aethant heibio, ac fe fyddai Lleyn allan o'r "ffasiwn" pe byddai hebddi; ond nid oes eisiau i neb syrthio i amheuaeth yng nghylch y pwnc hwn tra fyddo enw "Nant Gwiddan" mewn bodolaeth yn Lleyn. Fel yr oedd gan Endor ei "Dewines," Delphi ei "Phythia," Rhufain ei "Haugur," felly yr oedd gan y dalaeth hon ei "Gwiddan." Hi fyddai prophwydes y tywydd, mynegydd llwyddiant ac aflwyddiant, a chant a mil o ryw fân honiadau cyffelyb. Ffugiai weithiau ei bod yn cael ei chyfrinach oddiwrth y "Tylwyth Têg," sef rhyw fath o fodau oeddid yn ddefnyddio fel cyfrwng rhwng y byd hwn a'r byd arall; ac ar achlysuron eraill, maentumiai gymdeithas gydag ysprydion aflan Suddas ei hunan. Cymmerai ei hudlath wen yn ei llaw, tarawai yr awyr i gyfeiriad pedwar ban y byd, gan broffesu fod rhyw gyssylltiad rhyngddi a'r hin. Hawliai ddylanwad mawr ar gnwd y maes, a diogelwch y llongau ar y môr. Gosodai "gwlm dwbl" ar y gwallt, heb wybod i'w berchenog, ac yna cymmerai feddiant o hono; ymhyfrydai mewn swyngyfaredd; ymgeisiai at ddyrysu priodasau, os na fyddai pob peth yn iawn; trafnidiai mewn moddion meddyginiaethol, ac yn rhy aml mewn gwenwyn, fel nad oedd y claf nâ'r iach yn hollol ddiberygl o fewn ei chyrhaeddiadau mursenllyd. Gwelwn lawer iawn yn rhagor o gastiau y corachod hyn yn dyfod i'r golwg yn y "cofnodion " a wnaed am danynt yn y "Llyfrau" a ysgrifenwyd gan y barnwyr a'r rheithwyr yn y Llysoedd Gwladol pan oeddynt ar eu prawf am y fath weithredoedd drygionus.
Diau mai achos yr holl amryfusedd oedd anwybodaeth. Dioddefodd yr hen fyd o ganlyniad lawer iawn o herwydd y cyfryw honiadau. Efelychodd y Mynachod ar ol hyny ormod o lawer o'r peth a ystyriwn y nesaf bron i'r "Gelfyddyd Ddu;" ac y mae lle i ofni fod yr athrawesau a fabwysiedid mewn teuluoedd i ddysgu plant, wrth sôn am y gŵr drwg gyda chyrn ar ei ben, tân yn ei gêg, cynffon fel
buwch, llygaid fel dwy phiol, cilddannedd fel ci, crafangau fel arth, croen fel y Negro, llais fel crochwaedd llew, tra y diweddai'r chwedl yn gyffredin gyda'r gair "Bo!" nes creu arswyd ar bob un, a gwneyd distawrwydd am wythnos. Brydiau eraill siaradent am "Oleu Corph," y "Dyn yn y Gynfas," "bwbach hanner dyn a hanner gafr," "drychiolaethau" dirifedi, ac "ysprydion gyda thraed fel carnau ceffylau," nes y mae rhai o honom wedi myned cyn hyn bron i ofni mai yspryd ein tâd yw ein cysgod ganol dydd; a chyda'n gwallt yn codi ar ein penau, ddychymygu mai'r “Hên Nic" ydyw dafad wedi ei chneifio ar hyd nôs. Ond o drugaredd, trwy bregethiad yr efengyl, a chydweithrediadau eraill, y mae yr ysprydion, y mynachod, a'r gwiddanod wedi cilio o'n gwlad, ac nid ydym yn meddwl me fod eisiau i neb alaru ar en hôl. Cf., Bryn Gwydd (Edern), a Lletty'r Gelach (gerllaw Cefnammwlch), lle y dywedir fod eu crochan aur wedi ei gladdu rhwng tair ysgawen.
Want y Rhyfel.
YM mhlwyf Meyllteyrn y mae y Nant hon.
Rheda o gyfeiriad Tai'rlôn, tu cefn i Lôn-goch, i lawr i afon Seler. Fel y dengys yr enw ei hun, dywed Traddodiad wrthym fod rhyfel rywbryd wedi bod yn y fangre hon, ac y mae yr holl Amddiffynfeydd a soniasom am danynt yn cefnogi y cyfryw dystiolaeth. Mynegir fod y ddwy fyddin wedi cyfarfod oddeutu y Nant. Wynebai y naill y llall gyda'r adgasrwydd mwyaf echryslon, tra y fflamychai gelyniaeth fel coelcerth ym mynwes pob un. Clywid swn yr udgorn yn treiddio trwy Leyn, a phawb yn gorfod codi i fyny y cleddyf, neu gymmeryd eu medi