i lawr gan dorf eu gelynion. Anhawdd gwybod pa sawl tâd yng nghymmydogaethau y Sarn a laddwyd yn y frwydr hon, a pha sawl mab a gipiwyd ymaith oddiar ein haelwydydd ym mlodau ei ddyddiau. Yr oedd gwaed y lladdedigion yn lliwio'r lle, a'r unig goffadwriaeth a gawn o hono ydyw enw tyddyn bychan gerllaw, a elwir "Lôn-gôch."
Y Lôn i gyd oedd "gôch” gan waed, A'r cyrph a sathrent tan eu traed! O! Famau Lleyn! fan hon mae'ch plant, A'u gwaed yn lliwio dwfr y Nant!
Trefaes.
☑ N yr hên iaith cawn y gair hwn mewn llawer ffurf, megys “trêf, trê, treô," &c.,=cyfundrefn dan lywodraeth yr un penaeth; "trefian, trefianez, trefad, trefadez" un yn perthyn i'r gyfundrefn hon; "tre-féz, tre-feaz, trefaes"=tir y gyfundrefn, neu "faes" y "drêf;" "trefa, trefas"=y weithred o drin y tir hwn; yna, “trefa"=" thrave"=deuddeg ysgub o wenith. Ac fel un o'r pethau hynotaf yng Nghymru, y mae saith tyddyn ar y llecyn hwn ym mhlwyf Meyllteyrn, a "Threfaes" y gelwir pob un o honynt, yr hyn all fod yn achosi cryn lawer o betrusdod i awdurdodau y llythyrdy, pan y byddo un neu ddau o'r teuluoedd sydd yn byw ynddynt yr un enw. mae genym seiliau i gredu mai un "Dreflan" oedd yma ar y dechreu, a bod y "maes" erbyn heddyw wedi ei ranu yn saith. Ac wrth edrych i fewn i Drefniadau Hynafiaethol, ac olrhain darganfyddiadau diweddar, gallwn ond odid nodi allan safle yr hên Drefedigaeth.
Y
Yn y pant sydd o flaen y "Drefaes" sydd yng nghongl y gwastadedd, islaw "Tyddyn Hên,” daethpwyd ar draws llawer o gerryg yn y ddaear, y rhai a ymddangosent iddynt fod mewn gwasanaeth blaenorol; ac un diwrnod, cafwyd bwleden haiarn yn eu plith, yr hon sydd yn dri phwys a thair wns a hanner, a chedwir hi yn ofalus genym, gan ein bod yn ystyried mai ei neges yma oedd galanas a dinystr. Wrth bob argoelion, ar wastattir y ddôl yma, gerllaw yr afon yr oedd yr hên "Famdref," yr hon, fel llawer trêf o'i blaen, sydd yn y llwch. Tu cefn, yng nghae yr "Ystabl"=stabulum, y mae llwyfan tua dau càn llath o hyd, a dwy lath o uchder, o ran ffurf yn debyg i fwa, a mynedfa i fyny iddo o'r Waen, yr hwn sydd i gyd yn waith celfyddyd, ac o gynlluniad milwrol. Nis gellir meddwl iddo erioed fod o un gwasanaeth amaethyddol, oblegyd milwria y clawdd a godwyd gerllaw iddo yn erbyn pob amcan felly. Diau mai yma yr oedd y "safiad" yn erbyn y gelyn. Chwiliasom lawer am weddillion o'r fath ym "Mhant Tudur," ac ar "Fryn Engan" gerllaw, ond gan fod llaw amser wedi cyfnewid wyneb y ddaear gymmaint, methasom weled llawer o bethau a ddisgwyliem am danynt; etto, y mae lle i gredu fod gweithfeydd diogelwch gynt yn y cyfeiriadau yna, ond eu bod erbyn hyn wedi cael eu dilêu. Gwelwn mai prif amcan ein cyndadau oedd diogelu eu heiddo a'u bywydau. Ond er pob dyfais a gallu, yr oedd y cestyll yn syrthio, amddiffynfeydd yn cael eu chwalu, a'r byw yn cael ei roddi yn ysglyfaeth i'r cleddyf. Felly, amlygiadau rhyfel a chwyldroad gawn etto yn argraphedig ar yr holl fangre hon.
Ysgydwid glêdd oedd ddeufin hyd ei glaes, Ac yn y pant dymchwelwyd "Trêf"-y-"Maes."
N.B.-Dylid cofio fod y gair "tref" yn y cyfnod Hynafiaethol y cyfeiriwn ato bron yn gyfystyr â “chartref."
Cytiau Gwyddelod.
FEL y dengys hanesiaeth, yn ogystal âg olion ieithyddol a chelfyddydol, yr oedd y Goideliaid yn hên etifeddion yn Lleyn. Os trown i'r Dudlenas Hynafiaethol, cawn yno drachefn yr un gwirionedd yn cael ei osod allan. Nid oedd meinfor St. Siôr i “ginneach" yr Ynys Werdd, ddim mwy na genau afon Hafren i Ddefoniaid Demetia. Edrychent o làn i làn,
A nofient ei dŵr Neifion.
Fel yr oedd y Brodyr Brith yn goresgyn, ymgrynhöai Goidel gyda'i delyn i'w gwrwg, a chan ganu'n iach i'w drallodion, nofiai i'w werdd noddfa tu draw i "Mare Vergivium." Hyd yn hyn, yr oedd yn gâs ganddo edrych ar groen y crwydriaid o Rufain, ond rywsut, erbyn heddyw, ei hufen yw Rhufain. Nid oedd ychwaith, "siŵr-a-nuff," ddim hoffach o'i "gwrwg" nag oedd o'i "gùt," pa le bynag yr oedd. Can gynted ag y trôdd Cæsar a'i leng, ei gefn ar ein gwlad, dacw Goidel yn dechreu cofio am ei hên “gùt” cysurus yn Lleyn. Yn lle "cwrwg" yr oedd coedydd mawreddog Hibernia wedi rhoddi "llong” iddo erbyn hyn, os nad "Ilynges." Teimlai ei wendid wedi troi iddo yn nerth, a fflachiai gwreichion dialedd ar aelwyd ei fynwes. Llosgodd Fôn ar ei hallor, a gosododd ei sawdl ar dafod Lleyn.* Mawr fu y cythrwfl a'r cyffro yr adeg hon, tra yr eisteddai Pat yma i lawr yn dawel yn ei "gwt." Dyma yr adeg yr ymrithiodd cynnifer o "Gytiau Gwyddelod" i garpiau bodolaeth yn y rhandir, ac yr heuid rhŷg yn y "cefnau" culion a welir o'u hamgylch. Ymddengys mai yn y cyfnod hwn y cymmerodd y Goideliaid feddiant o borthladdoedd Dinllaen, Abersoch, &c., ac y gadawsant ar eu hol enwau lleoedd, megys, Barach, Lios, Madryn, Crowrach, ac efallai Ffridd. Ond pan yr oedd gweilch y "fwyell gallestr" a'r "bidog prês" yn bwyta brasder mwyth, ac yn yfed mel a hufen Lleyn, daeth y Cymro dewr o "Srathclyd "y "Ddôl Glud" ym mlaen, a gorfu i'r Gwyddel adael ei "gùt," a ffoi am ei hoedl yn ol tua'r Werddon, heb feddwl byth troi ei wyneb yn ol.
- Cyfeiriad at Leyn yn rhedeg allan fel "tafod" i'r môr.
Er cymmaint y brwydro, a chymmaint y brad, Y Cymro dewr galon a geidw ei wlad; Beth bynag a gollodd, er dyfned ei graith, Ni chollodd ei Genedl, a cheidw ei Iaith.
Castell March.
Nol y cerfiad sydd ar y garreg uwchben y drws, adeiladwyd yr annedd-dŷ godidog hwn yn y flwyddyn 1628, sef tua dau-cant-a-thri-ugaina-phedair o flynyddoedd yn ol, ond, mewn llawn edmygedd am yr hen amser gynt, rhaid mai ei ailadeiladu, neu ei godi i fyny o'r newydd, a gafodd y pryd hwnw. Ar yr arf-len, yn y mur, y mae llun pen march, ac ychydig eiriau Lladin dano, ond y mae cymmaint o'r llythyrenau wedi cael eu taraw i ffwrdd gan forthwyl amser, fel y mae yn annichonadwy gwneuthur un math o synwyr o honynt, fel y maent ar lawr, heb fyned i'r drafferth o chwilio am gyflenwad mewn brawddeg gyffelyb iddi yn llenyddiaeth y Rhufeiniaid. Oddiwrth yr ychydig sydd yn ddarllenadwy, credwn fod yma gyfeiriad at yr hen breswylydd, a bod "rhinwedd yn dyrchafu y meirw am eu gallu, neu eu nerth"-beth bynag fyddo ffawd neu anffawd dyn, na ddylid colli golwg ar
ei "rinwedd."*
Y mae amseriad ail-adeiladaeth Castell March yn ein harwain i gyfnod y chwyldroadau yng nghanol ystorm "Y Deg-ar-hugain-Mlynedd Rhyfel," a dyddiau cythryblus Cromwell ar ol hyny. Nid oes amheuaeth nad oes a fyno ei wneuthuriad rywbeth â'r blynyddoedd terfysglyd hyny, pan oedd y werin wedi codi ei sawdl yn erbyn y goron. Ond gan nad oes fawr o'r manylrwydd yng nghylch yr helyntion hyn wedi ei drosglwyddo i lawr i ni, fel y cyfaddefa Carnhuanawc, ni a frysiwn ym mlaen at Hynafiaeth y lle.
Barnwn fod y gair "Castell" yn hên etifeddiaeth berthynol i'r fangre hon. Gwêl yr hyn a ysgrifenasom ar Amddiffynfa Abersoch. Hyd y nod pan y codwyd yr adeilad presennol, yr oedd cyfeiriad yn cael ei wneyd, yn ol pob tebygolrwydd, yn y frawddeg Ladinaidd ar yr arf-len, at Farch ap Meirchion, sef un o farchogion (knights) y brenhin Arthur, yn y chweched ganrif, yn unol â'r hyn a glywid am dano ar lafar gwlad. Fel y darfu i Gwrtheyrn ffoi rhyw ganrif neu ddwy o'i flaen i'r parthau amddiffynol yma, felly y diangodd y Marchog hwn wedi i'w frenhin gael ei ladd ar faes Camlan, ac i'w gleddyf mawr "Caledfwlch" gael ei daflu i'r llyn. Diamheu mai oddiwrth enw ei dad y mae "Tremeirchion" yn St. Asaph, ac mai oddiwrth ei enw ei hun y mae Castell March yn Lleyn. Dywedir ei fod yn enedigol o Goed Celyddon, ac y troai pob peth y cyffyrddai ei
- Gwelsom y frawddeg yn gyflawn mewn llyfr Lladinaidd ar ol bod yn edrych ar arf-len y teulu ar y mur, ac y mae fel y canlyn:-"VIVAT POST FUNERA VIRTUS"-"BOED RHINWEDD FYW AR OL MARWOLAETH."
Cymmerwyd meddiant o Gastell March, a rhoddwyd ef drachefn gan William III. i Thomas Assheton Smith, Ysw.; a darllenwn i Ffrancod, tua'r dyddiau uchod, lanio gerllaw y Castell, a chipio gŵr y tŷ yn garcharor i Ffrainc.