Yn nechreu ei riangerdd ar "Catrin Tudur" (buddugol yn Eisteddfod Bangor, 1874), ceir y bardd yn arwain ei awen trwy arholiad difyr:
Flodeuog wlad y traserch mawr,
Gwlad deg y llwyni gwyrddion,
Y fro lle chwery heulog wawr,
Trwy ganol ei chysgodion!
A feiddiaf fi, ar ol goroesi
Fy nghalon ifanc, eto'th groesi?
Na: nid oedd y bardd wedi "goroesi'r galon ieuanc." Ieuengrwydd ei galon oedd yn cadw ei awen rhag colli ei chydymdeimlad â serch yr aelwyd briodasol; ac ac yn ei hyfforddi i ganu llinellau mor dirion a'r rhai hyn yn y gân, "Mae Jane ein Merch":—
Ond caru'r y'm er hyny
Hardda'r wedd, hardda r wên,
Fel po meina'r elo rên;
Cryfaf serch, serch yr hen;
Lawr i'r bedd fe deithia Jane,
Ond serch, ond serch a deithia i fynu.
Yn y cysylltiad hwn y mae yn bleser digymysg genym gyfeirio at y gàn olaf a ysgrifenodd ein bardd. Y mae yr amgylchiadau mor brudd—dyner ac mor nodweddiadol, fel y maent yn werth eu cadw byth mewn cof. Yr oedd wedi addaw geiriau deuawd i Mr David Jenkins, Mus. Bac., ar y testyn "Un a dau." Y mae yn debyg mai wrth deithio ar y Manchester & Milford Railway y cyfansoddodd hi. Ond gadawer i'w lythyr ddweyd yr hanes yn ei eiriau ei hun—oddieithr eu bod yn gyfieithedig o'r Saesneg:
CAERSWS,
Mai 10, 1886
ANWYL MR. JENKINS,
Methais ysgrifenu dim i'm boddio ar un "Un a Dau." Cerdded ar y gofyn y oedd hi nes i mi gyrhaedd y raddeg uwchaf ar y M. & M. Rly. Yna newidiais y testyn (mae hyn yn llythyrenol wir) i "Wrth fyned ar i lawr." Yr wyf yn amgau copi i