chwi. Y mae y llinellau, mi dybiaf, yn rheolaidd yn eu hafreoleidd—dra, ac y mae y mesur fel efe ei hunan, am ddim wn i yn amgen. Darllenodd fy hen wraig y gân wrthi ei hun, a chefais hi â'r dagrau mawrion yn ei hen lygaid anwyl (my old woman read it on the sly, and I found big tears in her dear old eyes).
- Yr eiddoch yn wir,
- JOHN CEIRIOG HUGHES.
- Yr eiddoch yn wir,
Bendith ar ei ben am fod yn werth y fath ddagrau o lygaid yr hon welodd fwyaf ohono; ac arosed y gân yn ei chalon Hithau, Fel y gwlith ar rosyn olaf yr ardd,—hyd yr ail gyfarfyddiad! Er ei bod bellach wedi ei chyhoeddi yn yr Oriau Olaf, y mae yn ormod o broFedigaeth i beidio ei chadw yma.
Fe—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
Heb deimlo'm traed o danwy,
Y'm ni yn Hidio fawr
Fy hen, hen wraig, Myfanwy:
Y Ddau—Os hen yw Gwener a'r Lleuad wen,
Maet eto mor oleuon,
Newydd y ddaear a newydd y nen,
A newydd hên ganeuon.
Hi—TeitHiasom dros y byd yn bell
Fe—(On'do Fe'n awr?)
Hi—A gwelsom lawer 'storom hell,
Fe—(On'do Fe'n awr?)
Y Ddau—Ond gwei'd yr y'm y byd yn well,
Wrth fyned ar i lawr.
Y Ddau—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
I fachlud uchelderau,
Yn mlaen o hyd mae gwawr
Yr hen, hen, hen amserau!
Fe—Mae'th olwg wedi rhyw ballu braidd,
Wrth ddarllen dy beithinen;
Ond nes i'r nefoedd nag ydoedd y gwraidd,
Yw blodau dy geninen!
Hi—Ond nid Fel cynt fydd Cymru fydd,
Fe—(On'de Fe'n awr?)
Hi—O fachlud oes rym ni, trwy ffydd,
Fe—(On'de Fe n awr?)
Y Ddau—Yn diolch gweled gwawr y dydd,
Wrth fyned ar i lawr.