Banffaglau gyda godwrdd;
Tir cynyrch y llenyrch llon
Is goreillt yn ysgyrion;
Ymwylltia 'r mellt trwy y mŵg,
Ar gil rhyw fan ceir golwg;
Dacw enwog wlad Canaan,
Eres dir, yn eirias dân,
Sylwi ar Ierusalem
Sydd yn ddybryd drymllyd drem.
Bu 'n ddinas, bàn oedd unwaith—a drylliwyd
Yr oll o'i haddurnwaith;
Wele hon ar yr ail waith
Yn fflamio 'n ffloyw ymaith!
O! dudwedd fy nghyndadau—hen Walia
Yn aelwyd gwefr—danau,
Creigydd hon fel briwsion brau,
Yn llwch ei mŵn a'i llechau.
Wele Frydain fuddugol frodir,
Hi nis dianga, hon ostyngir,
E dania 'i Llundain a ei llawndir,
O'i dewis geinion ei disgynir.
Chwyth fel mân—blu'r bàn eglur binaglau,
Ei holl lysoedd gwychion a'i phalasau,
Lluchio ei harial gestyll a'i chaerau,
A'r muriawg lyfnion farmor golofnau,
'N drwyadl âg anadl genau—Ior o'i lys,
Ar hyd yr Ynys rhua 'i daranau.
Ei holl dir yn lludw â,
Y "Fel Ynys" ddiflana.
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/30
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon