9.
Caw'd llawer iawn o honynt yn gorwedd yn'r un man
O! olwg (pwy all draethu) arswydus ddaeth i'w rhan;
Y plant yn wylo dagrau ger bron y tadau'n llu,
A phawb yn ngafael angau,—pwy draetha fel y bu?
10.
Fe losgodd rhai o honynt yn nghanol fflamiau tân,
A'r lleill yn mogi fyny a chwedi altro'u gran,
Yn ddeuddeg celain farwol o dan y ddaear ddu:
Pwy galon sydd na thodda wrth glywed fel y bu?
11.
Yr olwg gafwyd arnynt yn nghelloedd daear lawr,
Fu'n agos a llewygu y rhai sy'n fyw yn awr:
Un rhyfedd yw rhaglunineth, neu olwyn arfaeth Duw,
Trwy dân a mogi hefyd mae'n symud dynolryw.
12.
Y gwyr y borau hwnw yn gado'u gwragedd mwyn,
Ychydig a feddyliwyd f'ai angau yn'eu dwyn;
A gadael gwych rieni wnaeth dirion feibion dwys:
Maent oll yn gwybod heddyw fod angau'n beth o bwys.
13
Ond cyn y nos er dychryn cyfarfu rhai a loes,
Roedd llawer yn gyrff marwol a therfyn ar eu hoes,
A rhai ag esgyrn briwllyd, a da cael bod yn fyw:
Ansicr ydyw'n hamser, does neb a'i gwyr ond Duw,
14.
Y chweched dydd o Ionawr y cawd eu cyrff i gyd,
Ac yn y dyddiau hyny rawd i'r tragwyddol fyd;
Roedd ysgrechfeydd feddylid o fewn y level lo
Pan yn rhyfela'g angau—pwy ddyn anghofia'r tro?
15.
Pwy ddyn all ddirnad meddwl rhai ddaeth i'r lan yn fyw,
Am gael y waredigaeth trwy ddoeth drugaredd Duw:
Rwyf fel pe bawn yn meddwl fy mod yn clywed llef,
"Rwy'n diolch am fy mywy i Awdwr da'r a nef."
16.
Does dim ond tristwch calon trwy'r Dinas Cymar gu,
Och'naeidio dwys ar achwyn a glywaf ym mhob ty
Tudalen:Baled am drychineb gwaith glo Dinas y Cymer, Pontypridd, 1844.djvu/3
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon