Y wraig ar ol ei phriod sy'n llefain yn ddiwad.
A'r plant yn dorcalonus gwnant ofyn am eu tad.
17.
Mae yno wragedd gweddwon a calon dan eu cur.
Mewn galar mawr ac alaeth, a hiraeth dyddiau hir
Rhydd wiwlon blant amddifaid ochenaid oer a chwyn
Mae'n mamau'n drwm eu calon ar ol eu meibion mwyn.
18.
Roedd tri o'r dynion diwyd ga'dd ddyrnod angau du
Yn berchen wragedd gweddaidd, rhai llonwedd yn mhob llu
Gadawsant blant amddifad yn ddigon oer eu cwyn,
Yn gyflym gwelsant golled ar ol eu tadau mwyn
19.
Aeth naw o fechgyn ifainc i'r trag'wyddoldeb mawr,
Yn mlodau dyddiau diddan y torwyd hwynt i lawr
Man tadau rhain'au mamau bob dydd mewn galar days,
A'u brodyr a'u chwiorydd mewn hiraeth pena pwys
20.
"Does neb all ddirnad cyflwr y gwragedd mwynion mad,
Eu mheddwl am eu priod a'r plant ar ol eu tad:
Ond Duw a fyddo'n gysur i'r weddw ag i'r tlawd,
Ac hefyd i'r amddifad fe fydd yn dad a brawd
21,
Boed Duw i bawb o dylwyth y meirwon oll i gyd
Yn brysur amddiffynnydd tra bo'nt yn hyn o fyd,
A dyga hwynt i'th foli, a hyn heb unrhyw boen,
Nol hyny hwy gant ganu, Hosana byth i'r Oen
22
O byddwn bawb yn barod pan ddel y ddyrnad ddwys,
Pryd hyn bydd rhaid i ninnau fynd dan y genfedd gwys
Ansicr ydyw'n hamser, molianwn Grist yn ben
Ac yn ni gawn foli yr Arglwydd byth. Amen.
Argraffwyd gan Williams a Jones, Merthyr