Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dithau, 'r pôr gorau, ddirper gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad,
Deyrnwalch, eurgeinwalch, o rhoi genad,
Dygwn, cynyrchwn cu anerchiad;
Derbyn ddwys ofyn ddeisyfiad—maon[1]
Drudion[2] dirolion dy oreuwlad.

Cymer, nid ofer yw ein defod,
Cymer, anhyber[3] gwyl in' hebod,
Cuaf wlad buraf ddyled barod
Cymru, rywioglu wir oreuglod;
Cymer, ein dewrner, fri'n diwrnod,—cymer
O ber hyfodd-der ein hufudd-dod.

D.S.-Yr achos na orphenwyd yr awdl hon ydoedd i
Oronwy gael ei daro yn glaf gan y Cryd, pan oedd yn
preswylio yn Walton.


AN BONA OPERA SINT MERITORIA?

QUIS sibi confidit coelum sua facta mereri?
Digna Dei veniâ quis sua facta putat?
Nemo caret vitiis, nemo sine crimine vivit;
Cui bona sunt, quamvis plurima, plura mala.
Ipse Deus bonus est, Deus est bonitatis origo;
Tota hominum bonitas est tribuenda Deo.
Facta igitur nequeunt hominum meritoria dici:
Quod figulo argilla est, sunt hominesque Deo
Num tantum, quæso, quisquam supererogat, inde
Quantum aliis vendat, qui bonitate carent?
Macte, papista, bonis factis ! te vindice colum,
Si sibi sit nummus quisque merere potest.



  1. Deiliaid.
  2. Dewrion.
  3. Anniddan.