Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yn fardd os chwi a fyn fod,—o hirddysg
I harddu Eisteddfod,
I hwylio clêr a hel clod,
Ceisiwch yr holl drec isod:
Hyd rhaff rawn o lawn linyn—y seiri,
I fesuro'ch englyn;
A rhasgl a dyr bob rhisglyn,
Llif fras, a chwmpas, a chŷn.
Os hir y gwelir y gân,—y llafur
Fydd llifio darn allan;
Wrth y cwmpas gloywlas, glân,
Cofiwch rhaid rhasglio'r cyfan.
Dylech mewn prifodl ei dilyn—rhagoch,
Megis rhigol corddyn,
Heb wyro lled gwybedyn
A'r twybil wiw, gynil gŷn.
Yn fardd glân buan y b'och,—Elisa;
Hwylusaidd y dysgoch;
Doed a ddêl, bid dda gwneloch
Anhepgor gynghor Huw Goch.[1]
Ond deliwch sylw,
Os rhaid i byliaid gaboli—rhigwm,
Rhag im' ebargofi,
Gorau o'r cêr am beri
Cywreinio cân yw croen ci.[2]
- ↑ Amcanai y bardd ddangos mai Huw Huws (y Bardd Coch) oedd awdwr yr englynion hyn.
- ↑ Ellis Roberts (Ellis y Cowper).—Brodor o ardal Llanrwst ydoedd Elis, ac yn Llanddoget y claddwyd ef (yn ol Y Dyddanwch Teuluaidd), Rhagfyr 4ydd, 1789. Yr oedd yn gyfaill â Huw Jones, Llangwm; Dafydd Jones, Trefriw; Twm o'r Nant; Jonathan Huws, etc. Cyhoeddodd luaws mawr o garolau, cerddi, a mân lyfrynau, fel y gwelir yn Llyfryddiaeth y Cymry. Prin yr oedd yn deilwng o gerydd awen Goronwy Owen.