Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cywydd Deuair Fyrion a Deuair Hirion yn nghyd.
Cynal cwynion,
O dir i don,
Dan gaerau Prydain goron,
Yr ydis am Lewis lon.
Proest Cyfnewidiog Seith-ban.
Unodl Grweca,
Teiroes i'r mwynwr tirion,
O ras nef, a roisai'n Ion
O'i ddawn, o chawsai ddynion-eu meddwl
Ar fanwl erfynion.
Unodl Gyrch.
Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Mon,
Ni adfer Ner amser oes;
Rhed einioes, nid rhaid unon.[3]
Proest Cadwynodl.
Duw a'i dug ef, dad y gân;
Cywir i'w ddydd, carodd Ion;
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau ä'n sant: tawn a son.
Clogyrnach.
Hawdd y gorthaw[4] ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon ;
O raen oer enaid,
Diau bydd di-baid
Uchenaid a chwynion.