Gwawdodyn Byr.
Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dŵr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion,—a'u cymlawdd,
Iawn[1] y danghosawdd, nid annghyson.
Dau Wawdodyn Hir.
Daear[2] a chwiliodd drwy ei chalon,
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi, meini mwynion:
A thew res euraid ei thrysorion,
A'i manylaf ddymunolion—bethau
Deuai i'r golau ei dirgelion.
Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau'r taranau a'r terwynion
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr ganaid a ser gwynion;
Nodai'r lloer a'i newidion;—hynt cwmwl
O fro y nifwl[3] i fôr Neifion.
Dau Doddaid eto.
Ebrwyddaf oedd o'r wybryddion,—hyglod,
A llwyr ryfeddod holl rifyddion!
Traethai, fe wyddai foddion—teyrnasoedd,
Rhoe o hen oesoedd wir hanesion.
Gwawdodyn Hir.
Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dŵr Bab'lon,
Coffa[4] bri ethol cyff y Brython,
Gomer a'i hil yn Gymry haelion.
- ↑ Gwel y Mapiau cywraint o arfordiroedd Cymru a wnaeth ar orchymyn y brenin.
- ↑ Sef pan oedd olygwr ar fwngloddiau'r brenin yn Esgair y Mwyn, yn Ngheredigion.
- ↑ Bro'r nifwl, neu fro'r tarth, yw yr hyn a eilw y philosophyddion Saesonig atmosphere.
- ↑ Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testyn hwnw; ond pa un ei bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.