Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Huppynt Hir.

Glyw defodau
Eisteddfodau,
A'u hanodau,[1]
A'u hynadon;
Eu cyngreiriau,
A'u cyweiriau,
A chadeiriau
Uwch awduron.


Cadwyn Fyr

Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.


Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.

Ef oedd Ofydd[2]
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;
Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.


Hir a Thoddaid.

Goleuodd wedi ei gywleiddiadon[3]
A gwir hyfforddiant geiriau hoff heirddion;

  1. ['Haniadau.]
  2. Ofydd, sef yw hwnnw, P, Ofidius Naso, un o brydyddion godidocaf Rhufain.
  3. [Ei-gydwladwyr.]