Dilys i'r Angau dulew
Heb ymladd yn lladd y Llew.
Y Milgi llym, miweilgoes,
A red, ond ni chaiff hir oes;
Uthr Angau—hw!a threngi;
Ei hynt a fydd cynt na'r Ci.
Bwch gwyllt yn ebach gelltydd,
Ba hyd i'w fywyd a fydd ?
E gyrraedd Angau gorwyllt
Ebach a gwâl y Bwch gwyllt.
I Dad y dychryniadau
Diflin, beth yw Brenin brau?
Mae Selyf, mwyaf seiliad?
Mae'r llywydd Dafydd ei dad?
Pa gryfach gadarnach dau
I'r ingaf arwr Angau?
Bwriodd ef eu pybyrwch
Mewn un awr i'r llawr a'r llwch!
Nycha[1] Ner, byw 'n wych wna 'r byd?
Hyfawr yw Angau hefyd.
Dduw y gras, wrth y ddau gryf
Saled yw Cryfion Selyf!
O'i helaeth ddysgeidiaeth gynt
Gwyddai mor nerthog oeddynt;
A honai ef eu hynni,
Y Llên maith, yn well na mi.
Y trydydd certh anferthol
Ei nerth y sydd eto 'n ol.
Mi a wybum o'm maboed
Ei rym; ef nis gwybu 'rioed.
Y rhyfeddod hynod hon
Gweddai nad yw ond gwiddon;
A chewch, os dyfelwch hi,
Ei hanes, yn lle 'i henwi.
Eiddil henwrach grebach,[2] grom,
Nythlwyth o widdon noethlom,
Cynddrwg—oes olwg salach?—
O bwynt a llun angau bach.
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/86
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon